Ble maen nhw nawr? Rosie Leatherland, a astudiodd Iaith Saesneg yn Newcastle

Cyhoeddwyd gyntaf: 9 Mawrth 2017

Ar gyfer Safon Uwch, astudiais Lenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg a Drama, sy’n bynciau tebyg mewn sawl ffordd. Roeddwn i’n gwybod beth oedd fy nghryfderau, ac roedden nhw’n cyd-fynd â’r hyn roeddwn i’n ei fwynhau. Yn fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, roeddwn i’n ysgrifennu, yn actio ac yn darllen llawer, sef yn union yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud.

Dewisais astudio Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Newcastle. Roeddwn i’n sicr fy mod i eisiau gweithio yn y sector elusennol, ond doeddwn i ddim yn siŵr pa swydd yn union, felly roedd cadw fy opsiynau ar agor yn bwysig. Dewisais Newcastle oherwydd enw da’r cwrs a phrofiad y myfyrwyr. Roeddwn i’n disgwyl y byddai Undeb y Myfyrwyr yn rhan fawr o’m hamser yno, ac roedd yr amrywiaeth o gymdeithasau a gweithgareddau wedi creu argraff arnaf.

Yn fy mlwyddyn olaf, cefais fy ethol yn Swyddog Gweithgareddau Undeb Myfyrwyr Newcastle, sef swydd Swyddog Sabothol am flwyddyn y dechreuais arni yn yr haf ar ôl fy arholiadau terfynol. Roedd yn brofiad anhygoel – roeddwn i’n llywodraethu ar lefel uchaf y sefydliad, a dysgais yn gyflym lawer o sgiliau rwy’n eu defnyddio bob dydd. Roeddwn i’n goruchwylio gwaith 125 o gymdeithasau myfyrwyr ac yn trefnu digwyddiadau fel Ffair y Glas, y Ddawns Raddio ac Wythnos Codi a Rhoi (Raising and Giving Week). Ynghyd â’r chwe swyddog, roeddwn i’n cynrychioli pob un o’r 22,000 o fyfyrwyr ar y campws ac yn gweithio gyda’r Brifysgol ar benderfyniadau pwysig.

Yn 2014, dechreuais ar Charityworks, cynllun i raddedigion yn Llundain a chynllun dielw blaenllaw’r DU ar gyfer pobl ifanc sy’n dechrau eu gyrfa yn y trydydd sector. Treuliais flwyddyn ar leoliad llawn amser gydag Age UK yn y tîm Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd. Cyfrannais at ymgyrch yr elusen ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, gan weithio gyda phartneriaid lleol i annog darpar ymgeiswyr seneddol i ddod yn “Hyrwyddwyr Oed” (Age Champions) – a fyddai, pe baent yn cael eu hethol, yn hyrwyddo pobl dros 65 oed yn eu gwaith polisi ac yn eu hetholaethau. Roedd fy mentor yn Gynghorydd Llafur ac yn ymddiriedolwr mewn sefydliad blaenllaw yn y trydydd sector. Roeddwn i’n rhan o rwydwaith o dros 100 o gymheiriaid, yn cael hyfforddiant ddwywaith y mis ar bynciau’n ymwneud â’r sector elusennol, ac yn ysgrifennu aseiniadau a oedd yn gysylltiedig â’m gwaith bob dydd. Dysgodd y flwyddyn honno i mi yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud yn y sector a ble gallai fy sgiliau ychwanegu’r gwerth mwyaf.

Ar ôl Age UK, gwnes gais i Gymdeithas Alzheimer’s i weithio ar ei menter i greu’r senedd gyntaf yn y byd sy’n deall dementia, ac i arwain ei gweithgarwch yng nghynadleddau’r pleidiau gwleidyddol. Ers hynny, rwyf wedi symud i swydd uwch yno fel Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchu, yn rheoli’r ymgyrch Fix Dementia Care. Bûm hefyd yn gweithio ar stondinau arddangos yng Nghynhadledd y Blaid Lafur a Chynhadledd y Blaid Geidwadol. Enillodd y stondin yng Nghynhadledd y Blaid Lafur wobr Stondin Orau’r Trydydd Sector ar gyfer 2016.

Mewn wythnos arferol, rwy’n goruchwylio ymgysylltu â chefnogwyr ac â’r Senedd ar gyfer un ffrwd o’r ymgyrch. Er enghraifft, cyn Cyllideb y Gwanwyn y Canghellor, bûm yn gweithio ar ein strategaeth ynghylch dull y Llywodraeth o ariannu gofal cymdeithasol. Fel arfer, rwyf yn y Senedd bob yn ail wythnos, yn cyfarfod ag Aelodau Seneddol i drafod ymgyrchu ar ddementia neu’n mynychu digwyddiadau. Rwyf hefyd yn rhan o raglen fentora Rhwydwaith Menywod Cymdeithas y Ffabiaid (Fabian Society Women’s Network), sef rhaglen addysg wleidyddol sy’n helpu menywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Mae gan fy mentor sawl penodiad cyhoeddus, rwyf wedi cael cyngor gan sawl Aelod Seneddol benywaidd, ac rwyf wedi mynychu gweithdai ym mhencadlys y Blaid Lafur, yn Senedd Ewrop ac yn ystafell Cabinet yr Wrthblaid.

Rwy’n ffodus i gael gweithio, a chael fy mentora, ochr yn ochr â phobl dalentog sy’n arwain newid cymdeithasol yn y DU ac ar draws y byd. Mae’r trydydd sector yn lle gwerth chweil a chyffrous iawn i fod.