Ble maen nhw nawr? Ellen Skinner, Athrawes

Cyhoeddwyd gyntaf: 16 Mawrth 2017

*Ellen Skinner, a astudiodd Seicoleg yn y brifysgol.*

Ar ôl meddwl am flynyddoedd y byddwn i’n dilyn gyrfa yn y Gyfraith, fe wnes i dro pedol llwyr ar ôl mwynhau Seicoleg Safon Uwch yn fawr yn y coleg chweched dosbarth. Roeddwn i wrth fy modd yn y coleg ac yn teimlo mai dyma’r cam perffaith rhwng yr ysgol a’r brifysgol.

Ar ôl astudio Seicoleg am flwyddyn, roeddwn i’n gwybod mai dyma’r pwnc roeddwn i eisiau ei astudio ar lefel gradd. Doedd gen i ddim syniad o hyd am lwybr gyrfa, ond roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i’r brifysgol a bod angen i mi ddewis rhywbeth y byddwn i’n ei fwynhau.

Birmingham oedd fy newis cyntaf o brifysgol, ac roedd hi’n ddewis cyntaf i fy ffrind gorau a fy nghariad hefyd. Gan fy mod i’n eithaf nerfus am symud oddi cartref am y tro cyntaf, roeddwn i’n hapus i wybod y byddai pobl roeddwn i’n eu hadnabod o’m cwmpas.

Daeth diwrnod canlyniadau Safon Uwch, a ches i ddim y 2 A ac un B roedd eu hangen arna i, felly doeddwn i ddim wedi cael lle yn fy mhrifysgol ddelfrydol. Roeddwn i’n torri fy nghalon ac yn methu dychmygu y byddai unrhyw le arall yn cyrraedd fy nisgwyliadau, yn enwedig gan fod fy nghariad a fy ffrind gorau wedi cael lle yn Birmingham. Ar ôl misoedd o gynllunio bywyd yn Birmingham gyda’r ddau ohonyn nhw, a galwadau gwyllt i weld a allwn i gael lle drwy’r system Clirio, fe wawriodd arna i y byddai’n rhaid i mi nawr fynd i fy ail ddewis, Lerpwl, ymhen ychydig wythnosau, a hynny ar fy mhen fy hun yn llwyr. Roedd yn teimlo fel diwedd y byd.

Fodd bynnag, fe gymerodd tua dwy awr o symud i’r neuaddau a chwrdd â’m ffrindiau gorau (erbyn hyn) i sylweddoli fy mod i’n mynd i gael amser gorau fy mywyd yn Lerpwl, ac ar ôl tair blynedd fendigedig mewn dinas anhygoel, sylweddolais fod pethau weithiau’n digwydd am reswm. Fyddai Birmingham ddim wedi rhoi’r un profiad i mi ag a gefais gan Lerpwl a’r bobl a gwrddais yno.

Ar ôl cael 2:1 mewn Seicoleg yn 2012, doedd gen i dal ddim syniad am lwybr gyrfa. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i eisiau dilyn y llwybr i fod yn seicolegydd, gan nad oeddwn i eisiau gwneud cwrs ôl-raddedig. Roeddwn i hefyd yn gwybod fy mod i’n mwynhau gweithio gyda phlant. Gwnes gais am swyddi tua diwedd fy ngradd a llwyddais i gael swydd amser llawn fel cynorthwyydd gwerthu yn John Lewis. Gweithiais yno am flwyddyn gan fagu profiad mewn ysgolion cynradd ar fy niwrnodau i ffwrdd, a arweiniodd at y penderfyniad i wneud cais am gwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Nottingham Trent.

Ar ôl blwyddyn galetaf, brysuraf a mwyaf llawn straen fy mywyd – ond y fwyaf gwerth chweil hefyd – deuthum yn athrawes gymwysedig yn 2014, ac roeddwn i mor gyffrous i ddechrau gyrfa mewn swydd roeddwn i’n ei charu. Ar ôl un cyfweliad aflwyddiannus ac un cynnig swydd a wrthodais, cefais swydd fy mreuddwydion yn yr ysgol iau roeddwn i wedi’i mynychu pan oeddwn i’n blentyn, lle roeddwn i wedi creu llawer o atgofion hapus.

Nid yw addysgu’n swydd hawdd o bell ffordd. Mae’n golygu gweithio oriau ychwanegol di-ri heb dâl ychwanegol, prin cael amser i fwyta (na hyd yn oed mynd i’r tŷ bach weithiau!) a nosweithiau hwyr yn marcio a chynllunio gwersi. Serch hynny, does dim un diwrnod yn mynd heibio pan fydda i’n gwylio’r cloc yn aros i’r diwrnod ddod i ben, nac yn ofni mynd i mewn y diwrnod wedyn. Mae pob diwrnod, a hyd yn oed pob awr, yn hollol wahanol ac anrhagweladwy, a dyna’r rhan o’r swydd rydw i’n ei charu fwyaf, ynghyd â meithrin perthnasoedd cryf gyda’r athrawon anhygoel rydw i’n gweithio gyda nhw a’r plant sydd yn fy nosbarth.

Yn sicr, doeddwn i ddim y math o berson a oedd yn gwybod o oedran ifanc beth roeddwn i eisiau ei wneud â’m bywyd, ond ar ôl blynyddoedd o lwybrau annisgwyl, siomedigaethau a phenderfyniadau anodd, rydw i bellach yn fy nhrydedd flwyddyn yn gwneud swydd rydw i’n ei charu’n llwyr, a alla i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall byth!

Ellen Skinner, Athrawes