Cyhoeddwyd gyntaf: 30 Ionawr 2017
Rwyf wedi cael fy swyno gan gyfrifiaduron ers pan oeddwn i’n blentyn, ac roeddwn i’n eithaf sicr fy mod i eisiau gyrfa a oedd yn ymwneud â nhw.
Pan wnes i gais i’r coleg chweched dosbarth, dewisais Fathemateg, Hanes, Ffiseg, Almaeneg a Chyfrifiadura – fy mhynciau “hoff”. Rhoddais y gorau i Ffiseg yn fy mlwyddyn gyntaf ac Almaeneg ar ôl Safon UG, ond cadwais y pynciau eraill tan ddiwedd y coleg.
Pan ddechreuais feddwl am brifysgol, roedd fy nghanlyniadau Safon Uwch yn siomedig, oherwydd doeddwn i erioed wedi hoffi dysgu mewn ystafell ddosbarth. Roedd fy rhieni’n meddwl efallai na fyddai astudio academaidd yn fy siwtio, ond cefais fy synnu o ddod o hyd i lawer o gyrsiau Cyfrifiadura a oedd o ddiddordeb i mi. Roedd un cwrs, “Fforenseg Gyfrifiadurol”, yn sefyll allan, oherwydd roedd yn swnio’n gyffrous ac yn cynnig ongl wahanol i radd Cyfrifiadureg arferol.
Dewisais Brifysgol Fetropolitan Leeds (Prifysgol Leeds Beckett erbyn hyn) oherwydd roedd yn well gen i gynnwys y cwrs a’r campws na’r dewisiadau eraill.
Mwynheais y brifysgol yn llawer mwy, gan fod y dull dysgu’n fy siwtio’n well. Byddwn i’n cael problemau i’w datrys ac yn dychwelyd wythnosau’n ddiweddarach gyda’r atebion. Graddiais gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf – gwelliant mawr ar fy nghanlyniadau Safon Uwch.
Cefais fy swydd gyntaf ar ôl sgwrsio â darlithydd gwadd a oedd wedi siarad â’m dosbarth. Fy nheitl oedd “Ymchwilydd Fforensig Digidol”, ac roeddwn i’n helpu timau amddiffyn drwy ddadansoddi ffonau a chyfrifiaduron ar ran eu cleientiaid. Roedd y gwaith yn hynod ddiddorol; roeddwn i’n cwrdd â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a swyddogion heddlu, ac yn mynychu Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron.
Arweiniodd newidiadau i gyllid Cymorth Cyfreithiol at golli fy swydd drwy ddiswyddiad yn 2011, ychydig dros flwyddyn ar ôl i mi ddechrau. Bûm yn ddi-waith am bron i dri mis cyn i ffrind o’m cwrs, a oedd newydd gael swydd, fy argymell ar gyfer swydd “Dadansoddwr Diogelwch” gyda chontractwr amddiffyn mawr. Llwyddais yn y cyfweliad a derbyn y swydd, a oedd yn golygu gwaith shifft mewn Canolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC), yn monitro rhwydweithiau am ymyriadau ac yn cynghori cwsmeriaid ar gamau amddiffynnol. Roeddwn i hefyd yn rhan o’r tîm a oedd yn darparu gwaith monitro diogelwch ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Ar ôl chwe mis, cefais fy nyrchafu’n “Uwch Ddadansoddwr Diogelwch”, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn “Arweinydd Tîm Dadansoddwyr Diogelwch”, yn rheoli tua deg aelod o staff.
Ar ôl tair blynedd, gadewais, a bûm mewn ambell swydd arall cyn ymuno â’m cyflogwr presennol fel yr Uwch Ddadansoddwr Diogelwch mwyaf profiadol, gan wneud gwaith peirianneg hefyd ar y systemau sy’n rhedeg eu SOC. Flwyddyn yn ddiweddarach, cefais fy nyrchafu’n “Bensaer Gwasanaethau Diogelwch a Reolir”, lle rwy’n dylunio, yn adeiladu ac yn integreiddio technolegau newydd yn y SOC er mwyn canfod ymosodwyr sy’n targedu rhwydweithiau cwsmeriaid. Mae’r gwaith wedi mynd â mi ar draws y DU ac i’r Iseldiroedd, a chefais gynnal digwyddiad i Aelodau Seneddol ac Arglwyddi yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae Seiberddiogelwch yn faes heriol iawn sydd wedi gwthio fy ngallu technegol, ond ar ôl chwe blynedd yn y diwydiant rwyf yr un mor frwdfrydig ac ymroddedig â phan ddechreuais.
*Liam Stevenson, Pensaer Gwasanaethau Diogelwch a Reolir*