Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw hwn, a ddarperir er hwylustod i chi. Os oes unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau fersiwn, y fersiwn Saesneg fydd yn drech.

Telerau Defnyddio’r Wefan

Mae’r wefan hon yn eiddo i My Future Choice Group Limited (“MyFutureChoice” o hyn ymlaen), cwmni cyfyngedig sydd wedi’i gofrestru yn Lloegr o dan rif cwmni 14104709, y mae ei swyddfa gofrestredig yn

My Future Choice Group Limited
97 Alderley Road,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 1PT
Y Deyrnas Unedig

Mae defnyddio’r wefan hon yn ddarostyngedig i’r telerau defnyddio hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau defnyddio hyn, nid oes gennych awdurdod i ddefnyddio’r wefan hon nac i barhau i’w defnyddio.

Gallwn ddiwygio’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg, a bydd y fersiwn ddiwygiedig yn dod i rym ar unwaith pan gaiff ei harddangos yma ar y wefan hon.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau am y telerau defnyddio hyn, cysylltwch â ni drwy e-bost yn [email protected].

Hawliau eiddo deallusol
Rydym yn berchen ar yr holl hawliau eiddo deallusol yn y wefan hon ac mewn perthynas â hi, ac yn yr holl seilwaith technegol sy’n ymwneud â hi, neu mae gennym drwydded i’w defnyddio.

Mynediad i’r wefan hon a’i defnyddio
Wrth gyrchu unrhyw ran o’r wefan hon, rydych yn cytuno:

  • i beidio â defnyddio’r wefan hon mewn ffordd sy’n tarfu ar ddefnydd defnyddwyr eraill o’r wefan hon, yn ymyrryd ag ef neu’n ei gyfyngu;
  • i beidio â llwytho i fyny, arddangos na throsglwyddo drwy’r wefan hon unrhyw ddeunyddiau sy’n anwir, yn sarhaus, yn ddifenwol, yn fygythiol, yn anweddus, yn anghyfreithlon neu sy’n torri hawliau unrhyw berson arall yn unrhyw le yn y byd;
  • i beidio â gwrthdroi peirianneg, dadgrynhoi, copïo nac addasu unrhyw feddalwedd neu god neu sgriptiau eraill sy’n rhan o’r wefan hon, nac i geisio trosglwyddo i’r wefan hon neu drwyddi unrhyw wybodaeth sy’n cynnwys feirws, mwydyn, ceffyl Trojan neu gydran niweidiol neu aflonyddgar arall; a
  • i beidio â newid, addasu, dileu, ymyrryd â na chamddefnyddio data a gynhwysir ar y wefan hon ac a gofnodwyd gan unrhyw ddefnyddiwr trydydd parti o’r wefan hon neu sy’n ymwneud ag ef.

Gellir lawrlwytho, gweld ac argraffu deunydd a gynhwysir ar y wefan hon at ddefnydd personol neu i’w gylchredeg yn fewnol yn eich sefydliad, ar yr amod na chaiff unrhyw hysbysiadau nod masnach, hawlfraint neu berchnogol eraill a gynhwysir yn y deunydd hwnnw neu sy’n ymddangos arno eu dileu, yn gyfan gwbl nac yn rhannol.
Fel arall, ni chaniateir copïo, atgynhyrchu nac ailddosbarthu deunydd a gynhwysir ar y wefan hon, yn gyfan gwbl nac yn rhannol, heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw. Yn benodol, ni ddylid ei atgynhyrchu na’i ecsbloetio er budd masnachol. Cedwir pob hawl arall, a rhaid i ddefnyddwyr ofyn am ein caniatâd
cyn gwneud unrhyw ddefnydd arall o ddeunydd a gynhwysir ar y wefan hon.

Os oes angen i chi ddefnyddio cyfrinair i gyrchu unrhyw ran o’r wefan hon, rydych yn cytuno:

  • i sicrhau bod unrhyw fanylion a roddir i ni er mwyn cofrestru ar gyfer mynediad o’r fath yn gywir, ac i roi gwybod i ni yn brydlon os bydd unrhyw rai o’r manylion hynny’n newid;
  • i gadw’n gyfrinachol unrhyw gyfrinair mewngofnodi personol a ddarperir gennym, ac i fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio unrhyw gyfrinair o’r fath gan unrhyw drydydd parti; a
  • rydym yn cadw’r hawl i derfynu eich mynediad i rannau o’r wefan hon a ddiogelir gan gyfrinair os ydym o’r farn eich bod yn defnyddio’r wefan hon mewn modd sy’n niweidiol i’r wefan hon neu i ddefnyddwyr eraill.

Polisi preifatrwydd
Os byddwch yn rhoi manylion personol i ni drwy’r wefan hon, rydych yn cydsynio i ni gynnal, cofnodi, cadw a defnyddio data personol o’r fath yn unol â’n polisi preifatrwydd.

Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i gofnodi gwybodaeth am eich mynediad i’r wefan hon. Darnau bach o wybodaeth a storir ar eich cyfrifiadur yw cwcis. Mae defnyddio cwcis yn ein galluogi i fonitro traffig y wefan ac i bersonoli cynnwys ein gwefan yn ôl eich gofynion. Mae hyn
yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i chi wrth ddefnyddio ein gwefan ac yn ei gwneud yn haws i chi fewngofnodi a defnyddio’r wefan yn ystod unrhyw ymweliadau yn y dyfodol.
Cyn gynted ag y byddwch yn mynd i mewn i’n gwefan neu’n cofrestru arni, bydd ein system yn anfon cwcis i’ch cyfrifiadur pryd bynnag y byddwch yn mewngofnodi.

Gallwch weld y wefan heb ddefnyddio cwcis drwy adael y wefan, analluogi cwcis yn eich porwr rhyngrwyd a dychwelyd i’r wefan, ond gall hyn gyfyngu ar fynediad i’r wefan hon neu ar ymarferoldeb rhai tudalennau gwe ar y wefan. Mae defnyddio’r wefan hon heb analluogi cwcis yn gyfystyr â chydsynio i ni gasglu a defnyddio
gwybodaeth a geir o gwcis.

Cynnwys a chywirdeb gwybodaeth
Oherwydd natur y rhyngrwyd, ni allwn warantu y bydd y wefan hon na’r gwefannau y mae’n cysylltu â hwy ar gael i chi bob amser. Dylech sicrhau bod gennych amddiffyniad priodol rhag feirysau a threfniadau diogelwch eraill ar waith wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Er bod pob ymdrech resymol wedi’i gwneud i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, mae’r wefan hon ac unrhyw wybodaeth neu ddeunydd arall a gynhwysir ynddi ar gael yn gwbl ar y sail bod y defnyddiwr yn ei derbyn ‘fel y mae’ ac ‘fel y mae ar gael’.

Pan fyddwch yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunydd arall a gynhwysir ar y wefan hon, rydych yn gwneud hynny’n gyfan gwbl ar eich menter eich hun, ac rydych yn derbyn bod pob gwarant, amod ac ymgymeriad, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, boed drwy gyfraith gyffredin, statud, arfer masnach, cwrs ymwneud neu fel arall, mewn perthynas â’r wefan hon wedi’u heithrio i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.

Ein hatebolrwydd
Ac eithrio pan fyddwn wedi ymrwymo i gontract penodol gyda chi (wedi’i weithredu gan y ddau barti), rydym yn eithrio pob atebolrwydd, i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, mewn perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o’r ffaith nad yw’r wefan hon neu unrhyw wefan arall sy’n gysylltiedig â hi ar gael, neu o ddefnyddio’r wefan hon neu unrhyw wefan o’r fath, neu o ddibynnu ar gynnwys y wefan hon neu unrhyw ddeunydd neu gynnwys a gyrchir drwyddi.

Dolenni
Darperir dolenni o’r wefan hon er gwybodaeth a hwylustod yn unig, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys unrhyw wefan trydydd parti gysylltiedig ac, felly, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd amdano.

Awdurdodaeth
Mae’r wefan hon wedi’i chynllunio, a bydd y telerau defnyddio hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli, yn unol â chyfraith Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n deillio o gyrchu neu ddefnyddio’r wefan hon yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.