Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw hwn, a ddarperir er hwylustod i chi. Os oes unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau fersiwn, y fersiwn Saesneg fydd yn drech.
Telerau Partner ar gyfer Gwasanaeth
Mae’r Telerau Partner hyn yn berthnasol i’r Trwyddedau Rhaglenni MFC a brynir gan y Partner (fel y nodir yn y Ffurflen Archebu) gan eithrio unrhyw delerau eraill y mae’r Partner yn ceisio eu gosod neu eu hymgorffori, neu sy’n ymhlyg drwy fasnach, arfer, ymarfer neu gwrs ymwneud.
1. Dehongli
1.1 Bydd gan y termau diffiniedig a ddefnyddir yn y Telerau Partner hyn yr ystyr a bennir yn y Ffurflen Archebu a/neu yn y cymal 1 hwn o’r Telerau Partner hyn (fel y bo’n gymwys):
Ystyr “Data Asesu” yw’r Data Myfyrwyr ac unrhyw adroddiadau, dadansoddiadau a/neu argymhellion awtomataidd a/neu bwrpasol a gynhyrchir gan MFC (drwy gyfrwng Rhaglen MFC neu fel arall) mewn perthynas â’r Data Myfyrwyr hwnnw;
Ystyr “Gwybodaeth Gyfrinachol” yw’r holl wybodaeth berchnogol, hawliau eiddo deallusol, gwybodaeth arbenigol, syniadau, cysyniadau, cyfrinachau masnach, dyluniadau, manylebau, llawlyfrau, rhaglenni cyfrifiadurol, data, boed o natur fusnes, ariannol, technegol neu annhechnegol, a gwybodaeth arall y mae parti wedi’i dynodi’n glir fel gwybodaeth sy’n gyfrinachol iddo (p’un a yw wedi’i marcio’n “gyfrinachol” ai peidio) neu y dylid yn rhesymol ei hystyried yn gyfrinachol (gan gynnwys y Rhaglenni MFC, sy’n Wybodaeth Gyfrinachol MFC);
Ystyr “Blwyddyn Contract” yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar y Dyddiad Cychwyn neu ar ben-blwydd y Dyddiad Cychwyn, fel y bo’n gymwys;
Mae i “Rheolydd” yr ystyr a bennir yn y Ddeddfwriaeth Diogelu Data;
Ystyr “Deddfwriaeth Diogelu Data” yw Deddf Diogelu Data 2018 (“DPA”), GDPR y DU fel y’i diffinnir yn adran 3(10) (fel y’i hategir gan adran 205(4)) o’r DPA (“GDPR y DU”) ac unrhyw gyfreithiau eraill yn y DU sy’n ymwneud â diogelu data personol a phreifatrwydd unigolion;
Ystyr “Platfform MFC” yw porth diogel y gall y Myfyrwyr ei ddefnyddio i gyrchu a chwblhau’r Rhaglenni MFC, ac y bydd MFC yn rhoi mynediad priodol iddo i Ddefnyddwyr Staff ar gais rhesymol gan y Partner;
Ystyr “Partner nad yw’n Ysgol” yw busnes sy’n darparu gwasanaethau addysgol i Fyfyrwyr (boed yn uniongyrchol neu drwy Gleient Ysgol);
Ystyr “Ffurflen Archebu” yw’r ffurflen archebu sy’n nodi manylion allweddol y Cytundeb Partner, a ddehonglir yn unol â’r Telerau Partner hyn;
Ystyr “Cytundeb Partner” yw’r cytundeb partner yr ymrwymir iddo rhwng MFC a’r Partner pan gaiff ei weithredu gan y ddau barti, ac sy’n ymgorffori’r Ffurflen Archebu a’r Telerau Partner hyn;
Ystyr “Cleient Ysgol” yw ysgol neu sefydliad addysgol arall sy’n caffael Trwyddedau Rhaglenni MFC drwy Bartner nad yw’n Ysgol;
Ystyr “Defnyddwyr Staff” yw staff, ymgynghorwyr a/neu unrhyw ddefnyddwyr awdurdodedig perthnasol eraill y Partner y mae MFC yn rhoi mynediad iddynt i’r Platfform MFC mewn cysylltiad â darparu Rhaglenni MFC i’r Myfyrwyr;
Ystyr “Myfyriwr” yw myfyriwr y mae MFC yn rhoi mynediad iddo i un neu fwy o Raglenni MFC yn unol â’r Cytundeb Partner;
Ystyr “Data Myfyrwyr” yw’r holl wybodaeth a ddarperir gan y Myfyriwr neu ar ei ran mewn perthynas â Rhaglen MFC.
1.2 Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, bydd geiriau yn yr unigol yn cynnwys y lluosog a bydd geiriau yn y lluosog yn cynnwys yr unigol.
1.3 Mae cyfeiriad at statud neu ddarpariaeth statudol yn gyfeiriad at y statud neu’r ddarpariaeth honno fel y’i diwygir, y’i hestynnir neu y’i hailddeddfir o bryd i’w gilydd, a bydd cyfeiriad at statud neu ddarpariaeth statudol yn cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth a wneir o bryd i’w gilydd o dan y statud neu’r ddarpariaeth statudol honno.
1.4 Bydd unrhyw eiriau sy’n dilyn y termau ‘gan gynnwys’, ‘yn cynnwys’, ‘yn benodol’, ‘er enghraifft’ neu unrhyw ymadrodd tebyg yn cael eu dehongli fel enghreifftiau ac ni fyddant yn cyfyngu ar ystyr y geiriau, y disgrifiad, y diffiniad, yr ymadrodd na’r term sy’n rhagflaenu’r termau hynny.
2. Trwyddedau Rhaglenni MFC
2.1 Drwy hyn, mae MFC yn rhoi i’r Partner drwydded nad yw’n neilltuedig ac na ellir ei throsglwyddo i hyrwyddo’r Rhaglenni MFC a sicrhau eu bod ar gael i Fyfyrwyr sydd wedi’u lleoli yn y Diriogaeth, yn unol â thelerau’r Cytundeb Partner.
2.2 Mae MFC yn cydnabod, pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol, y caiff y Partner ddewis gwerthu Trwyddedau Rhaglenni MFC i Gleient Ysgol (er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’w fyfyrwyr) a/neu’n uniongyrchol i Fyfyriwr.
2.3 Rhaid i’r Partner gydymffurfio â’r holl gyfreithiau perthnasol (gan gynnwys cyfreithiau defnyddwyr i’r graddau y maent yn gymwys i weithgareddau’r Partner mewn cysylltiad â’r Cytundeb Partner).
2.4 Mae’r Partner yn cytuno i:
2.4.1 sicrhau bod y Myfyrwyr a’r Defnyddwyr Staff yn cadw cyfrinair diogel a chyfrinachol ar gyfer eu mynediad unigol i’r Platfform MFC;
2.4.2 cyfarwyddo Myfyrwyr i gyrchu’r Platfform MFC gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost personol sydd o dan eu rheolaeth (h.y. cyfeiriad e-bost y mae’r Myfyriwr wedi cofrestru ar ei gyfer yn bersonol drwy ddarparwr megis Gmail, Outlook, GMX neu Yahoo).
2.5 Ni chaiff y Partner wneud y canlynol (a rhaid iddo sicrhau nad yw’r Myfyrwyr a’r Defnyddwyr Staff yn gwneud y canlynol):
2.5.1 cyrchu’r cyfan neu unrhyw ran o’r Platfform MFC neu Raglen MFC er mwyn creu cynnyrch neu wasanaeth sy’n cystadlu â’r Platfform MFC neu’r Rhaglenni MFC;
2.5.2 cyrchu, storio, dosbarthu neu drosglwyddo unrhyw feirws, mwydyn, ceffyl Trojan neu gydran niweidiol neu aflonyddgar arall yn ystod unrhyw achos o gyrchu neu ddefnyddio’r Platfform MFC neu’r Rhaglenni MFC; neu
2.5.3 ceisio copïo, addasu, dyblygu, creu gweithiau deilliadol o, fframio, adlewyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, arddangos, trosglwyddo neu ddosbarthu’r cyfan neu unrhyw ran o’r Platfform MFC neu Raglen MFC mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng neu drwy unrhyw ddull, neu geisio dadgrynhoi, dadosod, gwrthdroi peirianneg neu fel arall leihau’r cyfan neu unrhyw ran o’r Platfform MFC neu Raglen MFC i ffurf y gall pobl ei chanfod, ac eithrio i’r graddau a ganiateir yn benodol gan y Telerau Partner hyn a/neu fel y gellir ei ganiatáu gan unrhyw gyfraith berthnasol na ellir ei heithrio.
3. Cymorth ar gyfer Rhaglenni MFC
3.1 Bydd MFC yn darparu’r Rhaglenni MFC gyda sgil a gofal rhesymol ac yn unol â’r Telerau Partner hyn.
3.2 Mae MFC yn gwarantu y bydd y Rhaglenni MFC yn perfformio ym mhob agwedd berthnasol yn unol â’r manylebau a ddarperir gan MFC.
3.3 Mae MFC yn cynnal sesiynau hyfforddi unwaith ym mhob blwyddyn academaidd. Rhaid i’r Partner fynychu sesiwn hyfforddi a gynhelir gan MFC cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y Dyddiad Cychwyn a, lle bo’n berthnasol, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd wedi hynny drwy gydol y Cyfnod Contract.
3.4 Bydd y Partner yn gyfrifol am ddarparu cymorth rheng flaen ar gyfer Rhaglenni MFC i’r Myfyrwyr (a/neu, pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol, i’r Cleientiaid Ysgol a’u Defnyddwyr Staff). Bydd hyn yn cynnwys ymateb i gwestiynau cyffredinol ynghylch Rhaglenni MFC a rhoi cymorth i wneud diagnosis o broblemau a wynebir gan unrhyw ddefnyddwyr o’r fath a’u cywiro. Rhagwelir y bydd y Partner yn gallu mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r materion cymorth a wynebir gan ddefnyddwyr, a’u datrys, ar sail y deunyddiau hyfforddiant ac arweiniad a ddarperir gan MFC i’r Partner.
3.5 Bydd MFC, ar gais rhesymol gan y Partner (pan na fydd y Partner yn gallu datrys ymholiad neu fater cymorth), yn darparu cymorth a chefnogaeth resymol mewn perthynas â Phlatfform MFC a Rhaglenni MFC yn ystod oriau busnes arferol MFC a heb unrhyw gost ychwanegol.
3.6 Bydd y Partner yn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig MFC ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ddeunyddiau marchnata, deunyddiau cyfarwyddo neu ddeunyddiau eraill y mae’r Partner yn dymuno eu defnyddio mewn perthynas â Rhaglenni MFC neu sy’n ymgorffori’r enw MFC (ac eithrio deunyddiau a ddarperir i’r Partner gan MFC).
4. Ffioedd a Thalu
4.1 Mae pob Trwydded Rhaglen MFC yn ddarostyngedig i Ffi Trwydded (ynghyd â TAW neu unrhyw dreth werthu gymwys arall) ac mae’n caniatáu i un Myfyriwr gael mynediad at y bwndel o Raglenni MFC a ddewiswyd a’i ddefnyddio.
4.2 Bydd y Partner yn talu’r Ffioedd Trwydded (a gyfrifir yn unol â’r Ffurflen Archebu) i MFC yn unol â’r telerau talu a bennir yn y Ffurflen Archebu.
4.3 Mae’r Partner yn cydnabod ac yn cytuno bod unrhyw ostyngiad a gymhwysir i’r Ffioedd Trwydded yn y Flwyddyn Contract gyntaf yn amodol ar i’r Partner brynu’r nifer isaf o Drwyddedau Rhaglenni MFC a bennir yn y Ffurflen Archebu mewn perthynas â gweddill y Cyfnod Contract (sef yr ail Flwyddyn Contract, neu’r ail a’r drydedd Flwyddyn Contract, fel y bo’n gymwys). Os bydd y Partner yn methu â bodloni’r gofynion prynu gofynnol a bennir yn y Ffurflen Archebu, bydd gan MFC hawl i adennill unrhyw ostyngiad perthnasol mewn perthynas â blynyddoedd contract blaenorol, a bydd y Partner yn ad-dalu unrhyw symiau o’r fath sy’n ddyledus i MFC pan ofynnir amdanynt.
Enghraifft 1: Os bydd Partner yn dewis Cyfnod Contract o ddwy flynedd ac nad yw’n bodloni’r gofynion prynu gofynnol ar gyfer yr ail Flwyddyn Contract, bydd gan MFC hawl i adennill y gostyngiad a gymhwyswyd i’r Ffioedd Trwydded ar gyfer y Flwyddyn Contract gyntaf.
Enghraifft 2: Os bydd Partner yn dewis Cyfnod Contract o 3 blynedd ac yn bodloni’r gofynion prynu gofynnol ar gyfer yr ail Flwyddyn Contract ond nid ar gyfer y drydedd Flwyddyn Contract, bydd gan MFC hawl i ailgyfrifo’r Ffioedd Trwydded a dalwyd fel bod y gostyngiad sy’n gymwys i gontract dwy flynedd yn cael ei gymhwyso yn lle’r gostyngiad sy’n gymwys i gontract tair blynedd.
4.4 Os bydd parti yn methu â gwneud unrhyw daliad sy’n ddyledus i’r parti arall o dan y Cytundeb Partner erbyn y dyddiad dyledus ar gyfer talu, bydd y parti diffygdalus yn talu llog ar y swm hwyr ar gyfradd o 4% y flwyddyn uwchlaw cyfradd sylfaenol Barclays Bank o bryd i’w gilydd. Bydd llog o’r fath yn cronni o ddydd i ddydd o’r dyddiad dyledus hyd nes y telir y swm hwyr mewn gwirionedd, boed cyn dyfarniad neu ar ei ôl.
4.5 Os bydd y Partner yn methu mewn unrhyw ffordd â chydymffurfio â’i rwymedigaethau talu o dan y Cytundeb Partner, mae MFC yn cadw’r hawl i atal dros dro hawl y Partner i sicrhau bod Rhaglenni MFC ar gael, a gall hyn gynnwys atal mynediad i Blatfform MFC ar gyfer y partner a chleientiaid y partner.
5. Eiddo Deallusol
5.1 Mae’r Partner yn cydnabod ac yn cytuno mai MFC a/neu ei drwyddedwyr sy’n berchen ar yr holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ym Mhlatfform MFC, yn Rhaglenni MFC ac yn y Data Asesu (ac eithrio’r Data Myfyrwyr). Ac eithrio fel y nodir yn benodol yn y Telerau Partner hyn, nid yw MFC yn rhoi unrhyw hawliau na thrwyddedau i’r Partner mewn perthynas â Phlatfform MFC, Rhaglenni MFC na’r Data Asesu (ac eithrio’r Data Myfyrwyr).
5.2 Mae MFC yn gwarantu na fydd darparu a defnyddio Platfform MFC a Rhaglenni MFC yn unol â’r Telerau Partner hyn yn torri hawlfraint unrhyw drydydd parti.
5.3 Os ceir hawliad bod defnydd y Partner a/neu ei Ddefnyddwyr Awdurdodedig o Blatfform MFC a/neu o Raglen MFC yn unol â’r Telerau Partner hyn yn torri hawlfraint trydydd parti, bydd MFC yn gwneud pob ymdrech resymol i:
5.3.1 sicrhau’r hawl i’r Partner a’i Ddefnyddwyr Awdurdodedig barhau i ddefnyddio Platfform MFC a/neu’r Rhaglen MFC (fel y bo’n gymwys) yn unol â’r Telerau Partner hyn (neu fel y cytunir fel arall rhwng y partïon yn ysgrifenedig);
5.3.2 gwneud y cyfryw newidiadau, addasiadau neu gyfaddasiadau i Blatfform MFC a/neu Raglenni MFC (fel y bo’n gymwys) ag sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt beidio â thorri hawlfraint mwyach; neu
5.3.3 disodli Platfform MFC a/neu’r Rhaglen MFC (fel y bo’n gymwys) â meddalwedd, cynnwys neu ddeunydd arall nad yw’n torri hawlfraint, fel y bo’n gymwys.
5.4 Os na all MFC ddatrys yr hawliad drwy gymryd un o’r camau o dan gymal 5.3 uchod, bydd gan MFC yr hawl i derfynu’r Cytundeb Partner yn amodol ar ad-dalu unrhyw Ffioedd Trwydded sy’n ymwneud â Thrwydded Rhaglen MFC nas defnyddiwyd (neu unrhyw gyfran berthnasol ohoni).
6. Data Asesu
6.1 I’r graddau y mae MFC yn berchen ar y Data Asesu ac ar unrhyw hawliau eiddo deallusol ynddo, mae MFC drwy hyn yn rhoi:
6.1.1 i’r Partner, hawl i ddefnyddio’r Data Asesu, ac i is-drwyddedu’r defnydd ohono, at ddibenion arfer ei hawliau a chyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb Partner, yn amodol ar gydsyniad y Myfyrwyr perthnasol a chydymffurfiaeth y Partner â’r Telerau Partner hyn, yn benodol ei rwymedigaethau o ran diogelu data a chyfrinachedd;
6.1.2 (pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol) hawl i’w Gleientiaid Ysgol ddefnyddio’r Data Asesu sy’n ymwneud â Myfyrwyr y Cleient Ysgol hwnnw, ac i is-drwyddedu’r defnydd ohono, yn amodol ar gydsyniad y Myfyrwyr perthnasol a chydymffurfiaeth y Cleient Ysgol â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data ac unrhyw gyfreithiau cymwys eraill; a
6.1.3 i bob Myfyriwr, hawl i ddefnyddio unrhyw Ddata Asesu a gynhyrchir mewn perthynas â’r Myfyriwr hwnnw.
6.2 Mae’r Partner yn cydnabod ac yn cytuno y bydd gan MFC hawl i grynhoi a defnyddio’r Data Asesu ar ffurf ddienw, yn amodol ar gydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
6.3 Mae’r Partner yn cydnabod y caiff MFC:
6.3.1 ddatgelu Data Asesu Myfyriwr i riant neu warcheidwad y Myfyriwr hwnnw ar gais (oni bai bod y Myfyriwr yn gwrthwynebu datgeliad o’r fath yn ysgrifenedig i MFC); a
6.3.2 grynhoi a defnyddio’r Data Asesu ar ffurf ddienw, yn amodol ar gydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
6.4 Os yw’r Partner yn berchen ar unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y Data Myfyrwyr, ac i’r graddau y mae’n berchen arnynt, mae’r Partner drwy hyn yn rhoi trwydded nad yw’n neilltuedig i MFC i gadw a defnyddio’r Data Myfyrwyr yn y modd a ragwelir gan y Telerau Partner hyn.
7. Diogelu Data
7.1 Mae’r partïon yn cydnabod ac yn cytuno bod pob parti yn Rheolydd mewn perthynas â’r data personol (fel y’u diffinnir yn GDPR y DU) y mae’n eu prosesu o dan y Cytundeb hwn ac mewn cysylltiad ag ef (“Data Personol”), gan gynnwys y Data Myfyrwyr.
7.2 Bydd pob parti, mewn perthynas â’i brosesu a’i ddefnydd o’r Data Personol, yn cydymffurfio bob amser â’i rwymedigaethau fel Rheolydd o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, gan gynnwys drwy roi a chynnal mesurau technegol a threfniadol priodol ar waith i ddiogelu rhag prosesu’r Data Personol heb awdurdod neu’n anghyfreithlon, a rhag colli neu ddinistrio’r Data Personol, neu ddifrod iddo, yn ddamweiniol;
7.3 Yn ogystal, mewn perthynas ag unrhyw Ddata Personol a ddatgelir gan un parti i’r llall o dan y Cytundeb hwn (“Data Personol a Rennir”), bydd pob parti yn:
7.3.1 sicrhau bod ganddo’r holl hysbysiadau, cydsyniadau a seiliau cyfreithlon angenrheidiol ar waith i alluogi trosglwyddo’r Data Personol a Rennir yn gyfreithlon i’r parti arall (sef bod hynny’n angenrheidiol at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynir gan y partïon);
7.3.2 rhoi gwybod yn brydlon i’r parti arall am unrhyw geisiadau gan wrthrychau data neu gwynion sy’n ymwneud â’r Data Personol a Rennir ac, os gofynnir am hynny, rhoi cymorth rhesymol i’r parti arall wrth ymateb i unrhyw geisiadau neu gwynion o’r fath; a
7.3.3 rhoi gwybod yn brydlon i’r parti arall am unrhyw achosion o dorri diogelwch data personol sy’n ymwneud â’r Data Personol a Rennir ac am unrhyw ohebiaeth gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (neu unrhyw gorff cyfatebol a ddaw yn ei lle) mewn perthynas â’r Data Personol a Rennir, a rhoi’r cyfryw gymorth ag y gall y Parti arall ofyn amdano’n rhesymol. Mae’r Partner hefyd yn cydnabod ac yn cytuno, er mwyn galluogi MFC i drosglwyddo’r Data Myfyrwyr i’r Partner a/neu’r Cleientiaid Ysgol (pan fo unrhyw endidau o’r fath wedi’u lleoli y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd), y caiff MFC ei gwneud yn ofynnol i’r Partner a/neu’r Cleientiaid Ysgol (fel y bo’n gymwys) ymrwymo i’r cymalau contractiol safonol perthnasol ar gyfer trosglwyddo data personol i drydydd gwledydd, fel y’u diweddarir, y’u diwygir neu y’u disodlir o bryd i’w gilydd (“Cymalau Contractiol Safonol”). Mae’r Partner yn cytuno, os yw Cleient Ysgol wedi’i leoli y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac nad yw wedi’i sefydlu mewn gwlad y cyhoeddwyd penderfyniad digonolrwydd cymwys mewn perthynas â hi, y bydd y Partner yn sicrhau bod y Cleient Ysgol yn ymrwymo i’r Cymalau Contractiol Safonol gyda’r Partner yn gweithredu yn enw MFC ac ar ei ran. Mae MFC drwy hyn yn awdurdodi’r Partner i ymrwymo i’r Cymalau Contractiol Safonol (fel y’u darperir gan MFC i’r Partner o bryd i’w gilydd) yn enw MFC ac ar ei ran, ar yr amod na fydd y Partner yn gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r Cymalau Contractiol Safonol hynny ac y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a bennir gan MFC.
8. Cyfrinachedd
8.1 Bydd pob parti yn trin Gwybodaeth Gyfrinachol y parti arall yn gyfrinachol, ac eithrio i’r graddau y caniateir datgeliad yn benodol o dan y Telerau Partner hyn neu y cytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng y partïon.
8.2 Mae’r partïon yn cydnabod y caniateir datgelu’r Wybodaeth Gyfrinachol:
8.2.1 i unrhyw gyflogeion, swyddogion, cynrychiolwyr neu gynghorwyr y parti hwnnw y mae angen iddynt wybod yr wybodaeth; a
8.2.2 i’r graddau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, gan unrhyw lys ag awdurdodaeth gymwys neu gan unrhyw gorff rheoleiddio neu weinyddol.
8.3 Mae’r partïon yn cydnabod na fydd y Wybodaeth Gyfrinachol yn cynnwys unrhyw wybodaeth:
8.3.1 sy’n hysbys i’r cyhoedd, neu sy’n dod yn hysbys i’r cyhoedd, ac eithrio drwy unrhyw weithred neu anwaith gan y parti sy’n ei derbyn;
8.3.2 a oedd ym meddiant cyfreithlon y parti arall cyn y datgeliad, neu a ddatgelir yn gyfreithlon i’r parti sy’n ei derbyn gan drydydd parti heb gyfyngiad ar ei datgelu; neu
8.3.3 a ddatblygir yn annibynnol gan y parti sy’n ei derbyn, a bod modd dangos datblygiad annibynnol o’r fath drwy dystiolaeth ysgrifenedig.
9. Cyfyngu ar Atebolrwydd
9.1 Ni fydd dim yn y Cytundeb Partner yn eithrio nac yn cyfyngu ar atebolrwydd MFC am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeulustod, nac am dwyll neu gamliwio twyllodrus.
9.2 Yn ddarostyngedig i gymal 9.1, ni fydd MFC o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol i’r Partner, boed mewn camwedd (gan gynnwys am esgeulustod neu dorri dyletswydd statudol), contract, camliwio, adferiad neu fel arall, am unrhyw golled, costau, iawndal, taliadau neu dreuliau anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol, colli elw, colli busnes, disbyddu ewyllys da a/neu golledion tebyg, neu golli neu lygru data neu wybodaeth, neu golled economaidd bur, sut bynnag y bônt yn codi o dan y Cytundeb Partner.
9.3 Yn ddarostyngedig i gymalau 9.1 a 9.2, bydd atebolrwydd MFC am golled uniongyrchol mewn camwedd, contract neu fel arall sy’n codi o dan y Cytundeb Partner neu mewn cysylltiad ag ef wedi’i gyfyngu, ym mhob Blwyddyn Contract, i gyfanswm y Ffioedd Trwydded a dalwyd neu sy’n daladwy i MFC gan y Partner yn y Flwyddyn Contract honno (neu, yn achos atebolrwydd sy’n codi ar ôl terfynu’r Cytundeb Partner neu ar ôl iddo ddod i ben, i’r swm a dalwyd neu sy’n daladwy gan y Partner yn y Flwyddyn Contract olaf).
9.4 Ac eithrio fel y nodir yn benodol yn y Telerau Partner hyn, mae’r holl amodau, gwarantau, telerau ac ymgymeriadau, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, boed drwy statud, cyfraith gyffredin, arfer masnach, arferiad, cwrs ymwneud neu fel arall (gan gynnwys, heb gyfyngiad, ynghylch ansawdd, perfformiad neu addasrwydd neu briodoldeb at y diben) mewn perthynas â Phlatfform MFC a Rhaglenni MFC wedi’u heithrio i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
9.5 Mae’r Partner yn cydnabod ac yn cytuno, a bydd yn sicrhau bod y Myfyrwyr (a, pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol, y Cleientiaid Ysgol) yn deall ac yn cytuno:
9.5.1 bod y Cytundeb Partner (gan gynnwys y trwyddedau a roddir oddi tano) rhwng y Partner ac MFC, ac nad yw MFC yn rhoi unrhyw warantau i’r Myfyrwyr (neu, pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol, i’r Cleientiaid Ysgol) mewn perthynas â Rhaglenni MFC, ac nad yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd i’r Myfyrwyr (neu, pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol, i’r Cleientiaid Ysgol) am unrhyw golled, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a boed mewn contract, camwedd neu fel arall, sy’n deillio o ddarpariaeth MFC o Raglenni MFC neu unrhyw wasanaethau cysylltiedig i Fyfyrwyr o’r fath (neu, pan fo’r Partner yn Bartner nad yw’n Ysgol, i’r Cleientiaid Ysgol) yn unol â’r Cytundeb Partner, neu mewn cysylltiad â hynny; a
9.5.2 bod Rhaglenni MFC wedi’u bwriadu i gynorthwyo Myfyrwyr i wneud dewisiadau addysgol a gyrfaoedd gwybodus drwy ddarparu gwybodaeth ac arweiniad cyffredinol i Fyfyrwyr (yn seiliedig ar y data a gyflwynir gan bob Myfyriwr o’r fath) – ni fwriedir i Raglenni MFC weithredu fel offer terfynol ar gyfer gwneud penderfyniadau, a dylid adolygu a dehongli’r holl ganlyniadau gydag arweiniad gweithiwr gyrfaoedd proffesiynol.
10. Cyfnod a Therfynu
10.1 Bydd y Cytundeb Partner yn cychwyn ar y Dyddiad Cychwyn ac, oni chaiff ei derfynu’n gynharach yn unol â’r Telerau Partner hyn, bydd yn parhau am y Cyfnod Contract.
10.2 Caiff y naill barti neu’r llall derfynu’r Cytundeb Partner ag effaith ar unwaith (neu ar ôl y cyfryw gyfnod rhybudd ag y gwêl yn dda), heb ragfarn i unrhyw un o’i hawliau neu rwymedïau, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r parti arall os:
10.2.1 yw’r parti arall yn cyflawni unrhyw doriad sylweddol (a all, heb gyfyngiad, gynnwys cyfres o fân doriadau) o delerau’r Cytundeb Partner ac yn methu (os gellir ei unioni) â’i unioni cyn pen tri deg (30) diwrnod ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig gan y parti cyntaf yn nodi’r toriad ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r toriad hwnnw gael ei unioni; neu
10.2.2 yw’n methu â thalu ei ddyledion; neu’n mynd yn ansolfent; neu’n ddarostyngedig i orchymyn neu benderfyniad ar gyfer ei ddatod, ei weinyddu, ei ddirwyn i ben neu ei ddiddymu (ac eithrio at ddibenion cyfuno neu ailgyfansoddi tra bo’n ddiddyled); neu os penodir derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd arall, rheolwr, ymddiriedolwr, datodwr, gweinyddwr neu swyddog tebyg dros ei holl asedau neu dros unrhyw ran sylweddol ohonynt; neu’n ymrwymo i unrhyw gompównd neu drefniant gyda’i gredydwyr yn gyffredinol, neu’n cynnig y cyfryw; neu’n rhoi’r gorau i’w fusnes neu’n bygwth gwneud hynny; neu’n destun unrhyw ddigwyddiad neu achos cyfatebol.
11. Canlyniadau Terfynu
11.1 Pan ddaw’r Cytundeb Partner i ben neu pan gaiff ei derfynu:
11.1.1 bydd yr holl Ffioedd Trwydded sydd heb eu talu yn dod yn ddyledus i MFC ar unwaith, ac ni fydd gan y Partner fwy na 30 diwrnod i anfon y taliad hwnnw i MFC;
11.1.2 bydd yr holl drwyddedau a roddwyd gan MFC i’r Partner ac i’r Myfyrwyr a’r Defnyddwyr Staff i gael mynediad at Blatfform MFC a Rhaglenni MFC a’u defnyddio yn dod i ben ar unwaith, ac eithrio i’r graddau y mae MFC o’r farn bod unrhyw fynediad parhaus yn briodol o dan yr amgylchiadau (er enghraifft, er mwyn galluogi’r Myfyrwyr i gwblhau Rhaglenni MFC); a
11.1.3 bydd unrhyw ddarpariaeth yn y Cytundeb Partner y bwriedir iddi, yn benodol neu drwy oblygiad, barhau ar ôl i’r Cytundeb Partner ddod i ben neu gael ei derfynu yn parhau mewn grym ac effaith lawn.
11.2 Bydd unrhyw derfynu ar y Cytundeb Partner heb ragfarn i unrhyw hawliau neu rwymedïau eraill y gall fod gan y naill barti neu’r llall hawl iddynt o dan y Cytundeb Partner neu yn ôl y gyfraith.
12. Archwilio
Ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig rhesymol ymlaen llaw, bydd y Partner yn rhoi mynediad i MFC, yn ystod oriau busnes arferol, at ei systemau, ei gofnodion a’i staff i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn i MFC wirio bod y Partner a’i Ddefnyddwyr Awdurdodedig yn cael mynediad at Blatfform MFC a Rhaglenni MFC ac yn eu defnyddio yn unol â thelerau’r drwydded, ac i wirio fel arall bod y Partner yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb Partner.
13. Allforio
Ni fydd y naill barti na’r llall yn allforio, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, unrhyw ddata technegol a gafwyd gan y parti arall o dan y Cytundeb Partner (nac unrhyw gynhyrchion, gan gynnwys meddalwedd, sy’n ymgorffori unrhyw ddata o’r fath) yn groes i unrhyw gyfreithiau neu reoliadau cymwys (“Cyfreithiau Rheoli Allforio”), gan gynnwys cyfreithiau a rheoliadau allforio’r Unol Daleithiau, i unrhyw wlad y mae’r llywodraeth, neu unrhyw asiantaeth iddi, ar adeg yr allforio yn gofyn am drwydded allforio neu gymeradwyaeth lywodraethol arall ar ei chyfer, heb gael y drwydded neu’r gymeradwyaeth honno yn gyntaf.
14. Gwrth-lygredd
Bydd pob parti yn: (i) cydymffurfio â’r holl gyfreithiau, statudau, rheoliadau a chodau cymwys sy’n ymwneud â gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredd, gan gynnwys Deddf Llwgrwobrwyo 2010 y DU; (ii) sefydlu a chynnal, drwy gydol y Cyfnod Contract, ei bolisïau a’i weithdrefnau ei hun sydd wedi’u llunio i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau gwrth-lwgrwobrwyo a gwrth-lygredd, fel y bo’n briodol; a (iii) rhoi gwybod yn brydlon i’r parti arall am unrhyw gais neu alw am unrhyw fantais ariannol neu fantais arall amhriodol o unrhyw fath a wneir neu a dderbynnir ganddo mewn cysylltiad â chyflawni’r Cytundeb Partner.
15. Hysbysiadau
15.1 Bydd unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Cytundeb Partner yn ysgrifenedig, a rhaid ei ddanfon â llaw neu drwy negesydd masnachol, neu ei anfon drwy e-bost, at y parti arall gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir yn y Cytundeb Partner hwn neu a hysbysir fel arall gan y naill barti i’r llall o bryd i’w gilydd.
15.2 Bernir bod hysbysiad a ddanfonir â llaw, drwy negesydd masnachol neu drwy e-bost wedi dod i law pan gaiff ei ddanfon (neu, os nad yw’r danfon yn digwydd yn ystod oriau busnes arferol y parti sy’n ei dderbyn, am 9 y.b. ar y diwrnod busnes cyntaf ar ôl ei ddanfon).
16. Cyffredinol
16.1 Mae’r Cytundeb Partner yn cynnwys y cytundeb cyfan rhwng y partïon mewn perthynas â’i destun, ac mae’n disodli’r holl drafodaethau, cytundebau, trefniadau a dealltwriaethau blaenorol rhwng y partïon mewn perthynas â hynny.
16.2 Ni fydd y naill barti na’r llall yn atebol am unrhyw oedi wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb Partner, nac am fethu â’u cyflawni, ac eithrio rhwymedigaeth i wneud unrhyw daliad sy’n ddyledus i’r parti arall, os achosir yr oedi neu’r methiant hwnnw gan amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y parti hwnnw, gan gynnwys tanau, streiciau, gwrthryfel, terfysgoedd, embargoau, neu reoliadau unrhyw awdurdod sifil neu filwrol.
16.3 Ni chaiff y Partner aseinio, trosglwyddo, is-gontractio na chreu arwystl dros unrhyw un o’i hawliau a/neu ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb Partner, na delio â hwy mewn unrhyw fodd arall, heb gydsyniad ysgrifenedig MFC ymlaen llaw.
16.4 Ni chaiff y Partner ei gyflwyno ei hun fel asiant i MFC at unrhyw ddiben, rhoi unrhyw amod neu warant na gwneud unrhyw gynrychiolaeth ar ran MFC, rhwymo MFC i unrhyw rwymedigaethau contractiol, nac ysgwyddo unrhyw atebolrwydd fel arall ar ran MFC.
16.5 Ni fydd methiant neu oedi gan y naill barti neu’r llall i arfer neu orfodi unrhyw hawl o dan y Cytundeb Partner yn gyfystyr ag ildio’r hawl honno, nac yn atal ei harfer na’i gorfodi ar unrhyw adeg neu adegau wedi hynny.
16.6 Ni fydd unrhyw amrywiad i’r Cytundeb Partner yn effeithiol oni bai ei fod yn ysgrifenedig ac wedi’i lofnodi gan y partïon (neu eu cynrychiolwyr awdurdodedig).
16.7 Ni fydd gan unrhyw berson nad yw’n barti i’r Cytundeb Partner unrhyw hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
16.8 Bydd y Cytundeb Partner ac unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys unrhyw anghydfod neu hawliad nad yw’n gontractiol) sy’n deillio ohono neu mewn cysylltiad ag ef neu â’i destun yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr ac yn cael eu dehongli yn unol â hi, ac mae’r partïon yn cytuno’n ddi-alw’n-ôl y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth nad yw’n neilltuedig i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys unrhyw anghydfod neu hawliad nad yw’n gontractiol) sy’n deillio o’r Cytundeb Partner neu ei destun, neu mewn cysylltiad â hwy.
Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 2021