Ble maen nhw nawr? Lara Poole, Cydlynydd Iechyd Meddwl

Cyhoeddwyd gyntaf: 24 Ionawr 2017

Pan fydd pobl yn gofyn i mi beth yw Dramatherapi, rwy’n ei chael hi’n anodd ei esbonio mewn un frawddeg, ac mae fy ateb yn wahanol i bob unigolyn. I mi, mae’n fath o therapi sy’n defnyddio “mynegiant a gweithgarwch dramatig” fel bod pobl yn gallu archwilio eu bywydau. Efallai y byddaf yn defnyddio chwarae rôl, mygydau neu bypedau.

Wnes i ddim penderfynu dod yn Ddramatherapydd tan yn hwyr iawn yn fy addysg, oherwydd doeddwn i erioed wedi clywed amdano. Cefais fy arwain yno drwy ddewis bob amser y pynciau roeddwn i’n eu mwynhau. Ar ôl yr ysgol, cwblheais Safon Uwch mewn Drama ac Astudiaethau Theatr, Astudiaethau Perfformio, ac Iaith Saesneg.

Gwnes gais am radd pedair blynedd mewn Drama ym Mhrifysgol Caint, oherwydd roedd yn cwmpasu pob agwedd ar y theatr, gan gynnwys dadansoddi testun, goleuo a sain, rheoli llwyfan a marchnata. Wnes i ddim cael y graddau ar gyfer y cwrs hwnnw, ond ar ddiwrnod y canlyniadau cynigiodd y brifysgol radd anrhydedd gyfun mewn Drama ac Astudiaethau Ffilm i mi. Mwynheais yr elfen ffilm gymaint fel y gwrthodais y cyfle i newid yn ôl i’m cwrs gwreiddiol ar ôl fy mlwyddyn gyntaf.

Yn ystod fy ngwyliau haf cyntaf, bûm yn gweithio mewn cartref nyrsio fel gweithiwr allweddol i oedolion ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a chyflyrau niwrolegol. Roeddwn i wrth fy modd o’r cychwyn. Roedd y shifftiau’n hir ac yn dechrau’n gynnar iawn, a chymerodd hynny amser i ddod i arfer ag ef, ond roeddwn i’n mwynhau mynd i’r gwaith a dod i adnabod llawer o bobl wahanol.

Tua diwedd fy ngradd, dechreuais feddwl am y cam nesaf, a darganfod Dramatherapi. Deuthum o hyd i radd Meistr mewn Dramatherapi yn agos at adref, fel y gallwn fyw gyda Mam a Dad. Gwnes gais yn syth, ond gohiriais am flwyddyn er mwyn gweithio’n llawn amser yn y cartref nyrsio i’w ariannu. Roedd y cwrs dwy flynedd yn cyfuno theori, lleoliadau clinigol a gwaith grŵp. Daliais ati i weithio’n rhan-amser yn y cartref nyrsio hefyd, felly roeddwn i’n brysur iawn. Ar ôl gorffen, cofrestrais gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) er mwyn gallu ymarfer.

Roedd Dramatherapi, ac mae’n dal i fod, yn faes eithaf anghyffredin, felly mae swyddi Dramatherapydd llawn amser yn anodd dod o hyd iddynt. Ar ôl cymhwyso, roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi fanteisio ar bob cyfle a gynigiwyd. Doeddwn i ddim o reidrwydd yn disgwyl cael swydd fel Dramatherapydd, ond roeddwn i’n disgwyl defnyddio fy sgiliau a’m cofrestriad mewn meysydd eraill.

Arweiniodd hynny fi at fy swydd bresennol fel Cydlynydd Iechyd Meddwl mewn coleg addysg bellach. Rwy’n cefnogi dysgwyr ag anawsterau iechyd meddwl er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu nodau yn y coleg. Mae hyn yn cynnwys cydlynu cymorth yn yr ystafell ddosbarth, cynnal apwyntiadau rheolaidd, a helpu dysgwyr i gael gafael ar wasanaethau allanol – sy’n golygu gweithio gyda CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) a gwasanaethau iechyd meddwl oedolion. Rwyf hefyd yn arwain hyfforddiant i staff ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac yn cyflwyno tiwtorialau i ddysgwyr. Rwy’n gobeithio defnyddio fy sgiliau Dramatherapi drwy gynnal grwpiau yn y coleg. Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth, o gymorth un-i-un i drafodaethau am ofal iechyd meddwl ym Mhrydain Fawr. Mae’r holl waith caled yn teimlo’n werth chweil, ac rwyf wrth fy modd â’r hyn rwy’n ei wneud.