Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mai 2017
Dechreuodd gyrfa newyddiadurol Harriet yn yr ysgol yn Stamford, lle’r oedd hi’n olygydd cylchgrawn yr ysgol. Yn ystod gwyliau’r ysgol cafodd brofiad gwaith gwerthfawr gyda The Rutland Times, The Leicester Mercury a The Independent yn Llundain, cyn treulio blwyddyn allan fel intern gyda The Evening News yn Ghana.
Yna dilynodd dwy radd – BA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Leeds ac MA mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol o City University, Llundain. Bu Harriet hefyd mewn amryw o swyddi yn y cyfamser, a oedd yn gyfystyr â ’blynyddoedd o waith caled, oriau hir ac aberth.’
Ymunodd Harriet â The Daily Telegraph yn 2008. Roedd ei phrofiadau gwaith amrywiol yn hollbwysig i’w llwyddiant, ac maen nhw ar frig ei rhestr o bethau y dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn newyddiaduraeth eu gwneud. ’Mae’r oriau’n hir ac mae’n annhebygol o’ch gwneud yn gyfoethog. Efallai y bydd profiad gwaith yn eich troi yn erbyn y syniad, ond os felly, o leiaf byddwch wedi dysgu beth nad ydych chi eisiau ei wneud.’ Mae Harriet hefyd yn cynghori cadw meddwl agored a bod yn barod i ddilyn pa bynnag lwybrau sy’n agor. ’Dechreuwch yn unrhyw le – papur newydd lleol neu gyfnodolyn masnach. Does dim ots. Dyna sut y dechreuodd rhai o’r newyddiadurwyr gorau rwy’n eu hadnabod eu gyrfaoedd. Mae’n rhaid i chi hefyd fod yn ddyfal, derbyn gwrthodiadau a bod yn realistig am y diwydiant a sut mae’n newid. Bydd llwybrau gyrfa newyddiadurol disgyblion heddiw yn wahanol i’r un a ddilynais i. Mae’n gyfnod anodd i’r diwydiant, wrth i newyddion ar-lein barhau i herio print, ond mae’r sgiliau sylfaenol yn aros yr un fath.’ Darn mawr arall o gyngor Harriet yw ’gwiriwch y ffeithiau! Mae mor bwysig. Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud fel awdur yw adrodd y ffeithiau heb eu gwirio. Cywirdeb yw’r peth allweddol.’
Mae amrywiaeth y straeon y mae Harriet yn ymdrin â nhw yn anochel yn dod ag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau mawr. ’Mae rhai straeon sy’n mynd o dan eich croen go iawn. Mae’r achosion o saethu torfol yn ddiddiwedd o ddigalon, ac fel Prydeinwraig rwy’n cael trafferth deall agweddau’r Unol Daleithiau tuag at ynnau. Fy ngwaith i yw bod yno wedyn, i geisio deall y cymhellion a’r personoliaethau. Yn aml mae angen i mi siarad â theuluoedd y dioddefwyr, ac nid yw’n rhywbeth y gallwch fyth ei anghofio. Mae terfysgoedd, saethu hiliol a’r elfennau Jihadi i gyd yn creu straeon sy’n effeithio arnaf.’
Ar yr ochr gadarnhaol, mae uchafbwyntiau gyrfa Harriet wedi cynnwys mynd i Giwba gyda’r Arlywydd Obama a bod yno pan chwaraeodd y Rolling Stones yn Havana. Roedd hi’n teimlo yr un mor freintiedig yn adrodd am y Gorllewin Gwyllt sy’n diflannu. Roedd treulio amser yn Wyoming gyda’r ffermwyr ransh, a phobl a oedd wedi byw yno ers cenedlaethau, gan ddeall eu hanes a gweld y bygythiadau o waith dyn i’r tirlun, yn brofiad gwahanol iawn ond yr un mor ddiddorol.
Mae gan Harriet un darn olaf o gyngor i ddarpar newyddiadurwyr. ’Mae ieithoedd,’ meddai’n frwd, ’yn fantais go iawn. Dyna sut rydych chi’n cael ymdrin â straeon diddorol iawn. Os gallwch siarad yr iaith, chi fydd y dewis naturiol ar gyfer stori ryngwladol – byddwch yn gallu siarad â phobl yn eu hiaith eu hunain a byddan nhw wir yn agor i fyny i chi. A gallwch glustfeinio hefyd!!’
Harriet Alexander: Gohebydd yn yr Unol Daleithiau, Daily Telegraph.