Cyhoeddwyd gyntaf: 30 Medi 2016
Yn ystod y dydd, rwy’n tynnu delweddau o amrannau pobl; gyda’r nos, rwy’n tynnu lluniau o fywyd gwyllt a thirweddau. Ar hyn o bryd, rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn newid rhwng fy swydd amser llawn fel gwyddonydd datblygu cynnyrch newydd i un o’r cwmnïau mwyaf yn y byd, a’m bywyd fel ffotograffydd yn dringo o gwmpas cefn gwlad yn cofnodi harddwch syfrdanol y byd naturiol.
Yn yr ysgol, penderfynais astudio Bioleg, Cemeg, Mathemateg ac Economeg ar gyfer Safon Uwch, heb unrhyw swydd benodol mewn golwg. Ar gyfer U2 (A2), rhoddais y gorau i Economeg a pharhau gyda’r tri phwnc arall, gan fy mod erbyn hynny wedi penderfynu fy mod eisiau gwneud gradd a oedd yn ymwneud yn bennaf â Bioleg.
Cofrestrais ar gwrs BSc Anrhydedd Gwyddorau Biolegol Prifysgol Lancaster. Roedd llawer o hyblygrwydd yn y modiwlau i ddewis ohonynt, yn cwmpasu pob math o ddisgyblaethau gwyddorau bywyd, gan gynnwys Ecoleg, Biocemeg a Biofeddygaeth. Gweithiais yn galed yn ystod fy mlwyddyn gyntaf a llwyddo i sicrhau un o ddim ond pedwar lle i fynd i Awstralia i astudio fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Wollongong, ychydig i’r de o Sydney. Roedd yn flwyddyn wych ac, heb os, yn un o brofiadau gorau fy mywyd.
Ar ôl graddio, sicrheais interniaeth tri mis yn Llundain ym mhencadlys Cancer Research UK, yn eu tîm cyfathrebu gwyddoniaeth. Roedd traethawd hir fy ngradd yn ymwneud ag ymchwil canser, felly roedd yn cysylltu’n dda â’r wyddoniaeth roeddwn wedi’i hastudio’n fanwl. Roeddwn yn trosi ac yn addasu canfyddiadau ymchwil o’r labordai i iaith bob dydd ar gyfer pobl nad ydynt yn wyddonwyr, o fewn yr elusen a thu hwnt, at bob math o ddibenion pwysig.
Yn ôl yn yr ysgol, roeddwn wedi gwneud wythnos o brofiad gwaith ym mhencadlys Boots ac wedi cael amser gwych yn eu hadrannau Fformiwleiddio a Gwerthuso Honiadau. Dychwelais yn y chweched dosbarth i wneud prosiect gwyddoniaeth pedair wythnos gyda nhw drwy Fwrsariaeth Nuffield (Nuffield Bursary). Treuliais fy amser yn rhedeg fy mhrosiect fy hun ar sglein gwefusau sy’n chwyddo’r gwefusau: yn dylunio, yn creu ac yn profi fy nghreadigaethau fy hun. Aeth y prosiect yn dda, gan arwain at gyrraedd rownd derfynol gwobr National Young Scientist of the Year ac ennill Gold Crest Award, ychwanegiadau gwych i’m CV. Roeddwn wedi cadw mewn cysylltiad â’m cysylltiadau yn Boots tra oeddwn yn y brifysgol, felly pan ddychwelais o Lundain gofynnais a oedd unrhyw swyddi ar gael, a chefais gynnig cyfweliad. Bûm yn fformiwleiddiwr am flwyddyn a hanner, yn gweithio’n bennaf ar ofal croen No7, Soap & Glory a Botanics. Fy ngwaith i oedd creu’r cynhyrchion o’r dechrau yn y labordai a’u profi i sicrhau eu bod yn sefydlog mewn tymereddau gwahanol ac ati, fel y gellid eu gwerthu mewn hinsoddau gwahanol ledled y byd. Pan oedd y fformwleiddiadau wedi’u haddasu a’u gwella, byddwn wedyn yn goruchwylio’r ffatrïoedd wrth iddynt gynyddu graddfa’r broses roeddwn i wedi’i chynnal, er mwyn sicrhau bod yr holl gynnyrch ar werth o gwmpas y wlad yn cyfateb i’r hyn roeddwn i wedi’i greu.
Gan fy mod hefyd yn ffotograffydd brwd, darganfyddais mai Prifysgol Nottingham, ar draws y ffordd o’m swyddfa, oedd yr unig le yn y byd lle gallech astudio MSc mewn Ffotograffiaeth a Delweddu Biolegol (Biological Photography & Imaging). Roedd y cyfle i gyfuno fy ngwybodaeth fiolegol a’m profiad o gyfathrebu gwyddoniaeth â ffotograffiaeth yn ymddangos yn rhy berffaith i fod yn wir, felly gwnes gais a chefais gynnig ysgoloriaeth gan y Brifysgol.
Treuliais y 12 mis canlynol yn dysgu sut i fod yn ffotograffydd, yn fideograffydd, yn ddylunydd graffeg ac yn ddylunydd gwe, gan ennill sgiliau gwerthfawr sydd bellach yn fy ngalluogi i gyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn amrywiaeth eang o fformatau digidol, o greu llyfrau a ffilmiau i ffeithluniau a blogiau. Bob wythnos byddwn yn mynd ar deithiau ledled y wlad i dynnu lluniau o dirweddau a bywyd gwyllt ar gyfer fy aseiniadau.
Ar ddiwedd y cwrs dychwelais i Boots, ac am y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn Werthuswr Honiadau gofal croen a cholur, yn dylunio ac yn cynnal astudiaethau gwyddonol i brofi’r cynhyrchion ar wirfoddolwyr, fel y No7 Triple Action Serum newydd. Fy ngwaith i wedyn yw dadansoddi’r data ac adrodd yn ôl i weddill y busnes er mwyn sicrhau bod unrhyw honiadau a wneir am y cynhyrchion terfynol wedi’u profi. Yn aml, mae’r astudiaethau’n cynnwys defnyddio ffotograffiaeth ac offer delweddu uwch i gofnodi delweddau manwl o’r croen neu nodweddion yr wyneb. Mae fy arbenigedd mewn ffotograffiaeth a delweddu o’m gradd wedi ychwanegu set sgiliau newydd sbon at allu’r tîm.
Nid yn unig y mae fy ngradd meistr wedi helpu i greu rôl wyddonol sy’n canolbwyntio ar ffotograffiaeth i mi symud ymlaen iddi yn Boots, mae hefyd wedi rhoi’r arbenigedd i mi droi fy ffotograffiaeth fy hun yn fusnes. Ar ôl graddio, creais fy ngwefan portffolio ffotograffiaeth fy hun (www.imogenbarkerphotography.com), ac rwy’n diweddaru fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’m blog yn rheolaidd gyda’m prosiectau a’m gwaith diweddaraf. Mae’n ffordd wych o barhau i ddatblygu fy sgiliau a’m rhwydwaith, gan ddod ar draws cyfleoedd a phrofiadau newydd. Rwyf bellach yn Wyddonydd Delweddu Graddedig (Graduate Imaging Scientist) ac yn Gydymaith (Associate) o’r Royal Photographic Society, mae gen i lyfr ar werth ar Amazon, ac rwyf wedi dylunio casgliad o ddillad sy’n cynnwys fy ffotograffiaeth – tri pheth na fyddwn erioed wedi disgwyl dod yn agos atynt pan oeddwn yn yr ysgol neu’r brifysgol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud, ond daliais i chwilio am ffyrdd o ddod o hyd i gyfleoedd a allai arwain at rywbeth, gan obeithio y byddai’n cynnwys profiadau pleserus a chyflog. Hyd yn hyn, mae wedi gweithio’n dda.
*Imogen Barker, Technolegydd Gwerthuso Honiadau*