Cyhoeddwyd gyntaf: 22 Medi 2016
Ar ôl gorffen fy arholiadau TGAU (GCSE), doeddwn i ddim yn gwybod pa yrfa roeddwn i eisiau, na hyd yn oed beth roeddwn i eisiau ei astudio yn y brifysgol! Fodd bynnag, roeddwn i’n gwybod fy mod yn hoffi gwyddoniaeth, yn enwedig Bioleg, ac roeddwn i eisiau swydd lle gallwn weithio yn yr awyr agored a pheidio â bod wrth ddesg drwy’r amser. Yn y diwedd, dewisais Fioleg, Cemeg, Seicoleg ac Athroniaeth a Moeseg ar gyfer Safon Uwch. Dewisais Gemeg gan fy mod yn gwybod nad oedd Mathemateg a Ffiseg yn bynciau cryf i mi, ond yn aml mae prifysgolion eisiau i fyfyrwyr fod wedi astudio dau bwnc gwyddonol ar Safon Uwch er mwyn gwneud gradd mewn gwyddoniaeth. Doeddwn i erioed wedi astudio Seicoleg nac Athroniaeth a Moeseg, ond roedd y ddau’n bynciau oedd o ddiddordeb i mi, a phenderfynais fod hynny’n bwysig. Astudiais y pedwar pwnc ar lefel UG a pharhau gyda Bioleg, Cemeg a Seicoleg i Safon Uwch.
Yn ystod fy ail flwyddyn yn y coleg, penderfynais gymryd blwyddyn i ffwrdd cyn mynd i’r brifysgol. Treuliais 10 wythnos yn Fiji yn gwneud gwaith cadwraeth, yn sgwba-blymio ac yn helpu i redeg gwersyll ymchwil. Roedd yn llawer o hwyl a chwrddais â ffrindiau oes. Pan ddychwelais adref, llwyddais i gael swydd fel derbynnydd drwy gwmni gwaith dros dro.
Roedd yn anodd penderfynu yn union pa lwybr i’w ddilyn yn y brifysgol. Dechreuais drwy edrych ar gyrsiau Bioleg Forol, ond ar ôl sylweddoli faint o Eigioneg (a Ffiseg!) oedd yn rhan ohonynt, dechreuais edrych ar gyrsiau Bioleg a Sŵoleg. Yn y diwedd, dewisais Brifysgol Abertawe a chwrs a oedd yn caniatáu i mi ohirio fy mhenderfyniad tan yr ail flwyddyn, pan ddewisais Sŵoleg.
Ar ôl cwblhau fy BSc, sylweddolais ei bod yn debygol y byddai angen gradd meistr arnaf i gael swydd yn gwneud rhywbeth roeddwn i’n ei fwynhau. Fodd bynnag, ar ôl gweithio’n galed iawn yn ystod fy ngradd israddedig, a heb wybod pryd y byddwn yn cael y cyfle eto ar ôl dechrau gweithio, penderfynais gymryd blwyddyn arall i ffwrdd i deithio a chynilo rhywfaint o arian. Enillais le ar gwrs mis o hyd ym Madagascar ar Fioleg Drofannol a Chadwraeth gyda’r Tropical Biology Association, sy’n gweithio ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt. Teithiais hefyd i Awstralia a Seland Newydd cyn dychwelyd i’m hen swydd ffyddlon fel derbynnydd!
Penderfynais aros ym Mhrifysgol Abertawe i gwblhau fy ngradd meistr, penderfyniad a gafodd ei hwyluso gan y cyfle i wneud cais am grant i dalu fy ffioedd. Cwblheais radd meistr a addysgir mewn Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau dros un flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn olaf hon yn y brifysgol, penderfynais fy mod eisiau gweithio fel Ecolegydd. Gwnes gais am nifer o swyddi ledled y wlad, ac yn fuan ar ôl dychwelyd adref cefais gyfweliad dros y ffôn gyda chwmni bach â dwy swyddfa, yng Nghaerwrangon a Swydd Hertford. Aeth y cyfweliad ffôn yn dda a chefais wahoddiad i gyfweliad tair awr gyda 3 ymgeisydd arall. Roedd hyn yn cynnwys cyfweliad gyda’r Cyfarwyddwr Ecoleg ac aelod uwch arall o staff, dwy dasg ymarferol a thrafodaeth gyda gweddill yr ymgeiswyr. Y bore wedyn, cefais alwad ffôn yn dweud fy mod wedi cael y swydd!
Dwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, rwyf wedi cael dyrchafiad o Ecolegydd Cynorthwyol i Ecolegydd. Yn gyffredinol, mae fy swydd yn golygu gweithio gyda chleientiaid sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad. Gall hyn amrywio o arolwg ystlumod bach i rywun sy’n bwriadu trosi ei atig, i arolygon o safleoedd âr enfawr ar gyfer adeiladwr tai. Rwy’n dechrau drwy ymweld â’r safle i gynnal Arolygon Cynefin Cam 1 – mapio’r cynefinoedd sy’n bresennol a chwilio am arwyddion o rywogaethau a warchodir. Yna, pan fyddaf yn ôl yn y swyddfa, rwy’n ysgrifennu adroddiadau technegol yn cynghori cleientiaid a oes angen rhagor o waith arolygu arnynt ar gyfer rhywogaethau neu gynefinoedd a warchodir, a sut i liniaru effaith y gwaith y maent yn ei wneud. Gall yr arolygon rhywogaethau a warchodir fod yn flinedig gan eu bod yn aml yn golygu gweithio yn y nos, ond mae’n werth chweil go iawn pan fyddwch yn gweld madfall ddŵr gribog neu’n gwylio ystlum yn dychwelyd i glwydo. Rwy’n defnyddio meddalwedd arbenigol i lunio cynlluniau i gyd-fynd â’m hadroddiadau, yn ogystal ag i ddadansoddi galwadau ystlumod sydd wedi’u recordio gan ddefnyddio ein synwyryddion ystlumod. Mis Mawrth i fis Hydref yw’r adeg brysuraf o’r flwyddyn i ecolegydd, ac rwy’n aml yn gweithio oddi cartref 2–3 noson yr wythnos. Mae’r gaeaf yn dawelach gan fod llawer o rywogaethau’n gaeafgysgu, ond mae digon i’w wneud yn y swyddfa o hyd, gan gynnwys paratoi offer ar gyfer y tymor arolygu nesaf!
*Alex Cole, Ecolegydd*