Cyhoeddwyd gyntaf: 8 Medi 2016
Ers tua phymtheg oed, roeddwn i’n meddwl yr hoffwn gael gyrfa ym maes eiddo. Treuliais fy wythnos o brofiad gwaith ym Mlwyddyn 11 gyda Spencer Birch Estate Agents and Chartered Surveyors, a meddyliais ei fod yn rhywbeth y byddwn yn ei fwynhau. Pan ddaeth yn amser dewis fy mhynciau Safon Uwch, ceisiais ddewis pynciau a fyddai’n ddefnyddiol, yn ogystal â’r rhai roeddwn i’n eu mwynhau. Astudiais Economeg, gan ei fod yn berthnasol i fywyd bob dydd; Mathemateg, gan ei fod yn debygol o fod yn ddefnyddiol ar gyfer gyrfa mewn syrfëo; Hanes, gan fy mod yn ei fwynhau; ac Astudiaethau Cyffredinol fel rhywbeth ychwanegol ar fy CV. Pan wnes i gais i brifysgolion, edrychais ar y rhai a oedd orau ar gyfer y cwrs roeddwn i wedi’i ddewis, sef Syrfëo Adeiladau. Roedd yn bwysig bod fy nghwrs wedi’i achredu gan yr RICS (The Royal Institution of Chartered Surveyors). Derbyniais gynnig gan Brifysgol Nottingham Trent a dechrau fy ngradd mewn Syrfëo Adeiladau ym mis Hydref 2009.
Cwrs pedair blynedd oedd fy nghwrs, gyda blwyddyn leoliad a argymhellir yn y drydedd flwyddyn. Roedd y flwyddyn leoliad yn bwysig gan ei bod wedi rhoi profiad uniongyrchol i mi o’r diwydiant. Rhoddodd fy lleoliad gyda Fletchers Chartered Surveyors wybodaeth werthfawr i mi am fyd syrfëo, gydag ystod eang o heriau. Roedd fy mhrif ddyletswyddau’n cynnwys cynorthwyo’r Cyfarwyddwr gydag arolygon a phrisiadau cyn caffael, hawddfreintiau ar gyfer cyfleustodau, adolygiadau rhent ac anghydfodau ffiniau. Un prosiect diddorol y bûm yn rhan ohono oedd prynu gorfodol rhywfaint o dir amaethyddol oherwydd cynllun deuoli ffordd yr A46. Roedd mynd yn ôl i’r brifysgol ar ôl blwyddyn i ffwrdd yn anodd, ond hwn oedd yr ’ymdrech olaf’ ac wedyn byddwn yn raddedig.
Ar ôl graddio ym mis Gorffennaf 2013, roeddwn i’n meddwl tybed beth yr hoffwn ei wneud fel gyrfa mewn gwirionedd. Roeddwn i’n gweld fy ngradd Syrfëo Adeiladau yn ddiddorol, ond doeddwn i ddim yn siŵr fy mod eisiau gyrfa yn y maes. Erbyn hyn roeddwn i’n canlyn ffermwr, a deuthum yn frwd iawn dros syrfëo gwledig. Gan fy mod i wastad wedi bod yn ’ferch y wlad’, cofrestrais ar gwrs ôl-raddedig ym Mhrifysgol Harper Adams (coleg amaethyddol arbenigol yn Swydd Amwythig). Yno, astudiais Reoli Ystadau Gwledig a Thir (Rural Estate and Land Management), a mwynheais y cwrs yn fawr.
Wrth orffen fy Niploma Ôl-raddedig, dechreuais weithio yn Bentons ym Melton Mowbray, sy’n Werthwyr Tai a Syrfewyr Siartredig. Mae fy rôl yma’n amrywiol iawn, gyda rhywbeth gwahanol bob dydd, sy’n rhoi profiad i mi mewn nifer o feysydd gwahanol. Rwy’n gwneud fy APC (Assessment of Professional Competence – Asesiad o Gymhwysedd Proffesiynol) i ennill statws Siartredig mewn Ymarfer Eiddo Preswyl. Mae’r gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys Adroddiadau Prynwyr Tai (Homebuyer Reports), arolygon a phrisiadau. Rwyf wedi trefnu gwerthu a phrydlesu ffermydd, tir ac eiddo preswyl a masnachol yn Swydd Gaerlŷr a Swydd Nottingham, ac wedi llwyddo i sicrhau caniatâd cynllunio i gleientiaid ar gyfer datblygiadau preswyl.
Rwy’n mwynhau fy mywyd gwaith, ac mae wedi fy ngalluogi i brynu fy nhŷ fy hun ym mis Awst 2015. Rwyf i fod i sefyll fy APC yng ngwanwyn 2017 ac wedyn (os byddaf yn llwyddo!) byddaf yn Syrfëwr Siartredig, rhywbeth y byddaf yn falch o’i gyflawni ar ôl blynyddoedd lawer o waith caled.
*Jenny Crowther, Syrfëwr Cynorthwyol*