Cyhoeddwyd gyntaf: 8 Tachwedd 2016
Meddygaeth: mae rhai pobl yn syrthio i mewn iddi, mae rhai’n dweud eu bod wedi’u geni i’w gwneud, ac mae rhai’n cael eu gorfodi iddi. Byddwn i’n dweud fy mod i rywle rhwng y ddau gategori cyntaf, gan fy mod i wastad wedi bod â rhyw ddiddordeb mewn bioleg yn gyffredinol ac mewn meddygaeth, ond heb ei hystyried o ddifrif fel gyrfa yn y dyfodol. Newidiodd hyn pan ddaeth yr amser i benderfynu pa bynciau TGAU i’w gwneud. Bryd hynny, gan mai’r gwyddorau oedd orau gen i, dechreuais ei hystyried fel fy nyfodol posibl. Wrth ddewis pynciau Safon Uwch roedd fy newis yn gyfyngedig, gan fod llawer o gyrsiau’n gofyn am Gemeg a Bioleg a llawer yn ffafrio trydedd wyddoniaeth, ond fe wnes i o leiaf dorri’r mowld ychydig drwy astudio Llenyddiaeth Saesneg ar lefel UG yn hytrach na Ffiseg.
Es i i ysgol feddygol University College London (UCL) gan fod fformat y cwrs yn apelio ataf: cwrs 6 blynedd traddodiadol, gyda’r ddwy flynedd gyntaf yn canolbwyntio ar theori, gyda darlithoedd, dyrannu a gwaith ymarferol mewn labordy. Yn fy nhrydedd flwyddyn ces i hefyd y cyfle i wneud BSc rhyngosodol, a gwnes i hynny mewn Gwyddor Orthopedig a Bioleg Gyhyrysgerbydol. Hyd yn oed yng nghamau cynnar fy ngyrfa yn yr ysgol feddygol, fy mhrif nod oedd arbenigo mewn Llawfeddygaeth Orthopedig ryw ddiwrnod, felly roedd gwneud BSc mor berthnasol yn fonws go iawn. Roedd tair blynedd olaf yr ysgol feddygol yn fwy heriol; symudodd y pwyslais at wybodaeth glinigol, gyda chylchdroadau 12 wythnos mewn ysbytai drwy wahanol arbenigeddau clinigol, ac arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol trylwyr ar ddiwedd pob bloc. Er gwaethaf hyn i gyd, roedd digon o amser o hyd i chwarae rygbi, cymryd rhan mewn gweithgareddau elusennol ac ymlacio’n gyffredinol gyda grŵp anhygoel o agos o ffrindiau. Roedd y straen a’r pwysau hefyd yn ymarfer da ar gyfer bywyd fel meddyg.
Graddiais o UCL yn 2012 a symud i Birmingham i ddilyn rhaglen hyfforddiant sylfaen academaidd: cyfnod o ddwy flynedd o gylchdroadau pedwar mis mewn gwahanol arbenigeddau, a oedd hefyd yn cynnwys cyfnod o bedwar mis yn canolbwyntio ar ymchwil. Roedd y ddwy flynedd gyntaf hyn yn anodd ar adegau: teimlo wedi fy llethu mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys wyllt, bod ar alwad dros nos yn gyfrifol am adain gyfan o ysbyty gyda nifer o gleifion sâl, torri newyddion drwg i gleifion a’u teuluoedd ac, wrth gwrs, ymdopi â marwolaethau anochel cleifion. Ar yr un pryd, roedd hefyd yn gyfnod pan oeddwn i’n dysgu ac yn datblygu bob dydd, ac yn ystod fy nghyfnod ymchwil yn y Royal Orthopaedic Hospital sylweddolais mai Oncoleg Orthopedig oedd y maes roeddwn i eisiau arbenigo ynddo wrth symud ymlaen.
Ar ddiwedd fy hyfforddiant sylfaen wnes i ddim gwneud cais am swydd hyfforddi; ar ôl gweithio at arholiad ar ôl arholiad ers fy TGAU a thrwy gydol yr ysgol feddygol, roedd blwyddyn i ffwrdd yn ymddangos yn opsiwn synhwyrol. Treuliais 10 wythnos yn India yn cyfuno teithio â gweithio mewn ysbyty canser cyhoeddus enfawr ym Mumbai, gan weld llawdriniaethau rhyfeddol, yn ogystal â gwirfoddoli yn slymiau Mumbai gydag elusen gwahanglwyf a TB. Treuliais hefyd 10 wythnos yn Ne a Chanolbarth America, a oedd yn canolbwyntio mwy ar orffwys, ymlacio a theithio o gwmpas.
Ar ôl dychwelyd, llwyddais i gael cymrodoriaeth glinigol academaidd mewn Orthopedeg yn Coventry, un y mae galw mawr amdani, a dw i bellach yn fy ail flwyddyn ohoni. Mae’r gymrodoriaeth yn cynnig cyfleoedd i wneud ymchwil a hyfforddiant hyd at lefel ymgynghorydd. Roedd fy mlwyddyn gyntaf o hyfforddiant arbenigol yn bleserus, gyda’r cyfle i wneud llawdriniaethau a dysgu gan rai llawfeddygon dawnus iawn. Ar gyfer rhan academaidd fy hyfforddiant, rydyn ni’n cael blociau o amser i weithio tuag at wneud cais am grant PhD yn y maes o’n dewis. Ar hyn o bryd dw i wedi fy lleoli yn Sheffield gyda thîm ymchwil canser, yn datblygu fy sgiliau labordy ac yn canolbwyntio ar brosiect sy’n edrych ar gondrosarcoma, canser cymharol brin.
Mae meddygaeth fel gyrfa yn cymryd llawer ond yn rhoi hyd yn oed mwy yn ôl. Mae adegau pan mae’n eich blino’n llwyr gyda’i natur ddi-baid, mae’n eich cadw’n effro yn y nos gyda straen y dydd, mae’n eich symud oddi wrth ffrindiau a theulu, mae’n gwneud i chi golli priodasau a phenblwyddi oherwydd rotâu anghymdeithasol, ac mae’n gwagio’ch cyfrif banc gyda ffioedd, arholiadau a chyrsiau. Ar y llaw arall, mae pob diwrnod yn wahanol, mae gennych chi’r cyfle i weithio mewn tîm hynod o glòs, rydych chi’n gwneud ffrindiau anhygoel, rydych chi’n dysgu ystod enfawr o sgiliau, rydych chi’n cael siarad ag ystod eang o gleifion (diolchgar, gan amlaf) ac ar ddiwedd y dydd, ac yn bwysicaf oll, gallwch eistedd i lawr gyda phaned o de a llawer iawn o foddhad eich bod wedi gwneud gwahaniaeth.
Chris Wilding, meddyg