Cyhoeddwyd gyntaf: 2 Mawrth 2022
Yn Hymers College yn Kingston-upon-Hull, mae cyngor gyrfaoedd unigol sydd wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o gryfderau a diddordebau yn sail i raglen yrfaoedd bwerus. Mae Paul Meadway, cyn-bennaeth Gyrfaoedd ac Addysg Uwch, yn esbonio sut y defnyddiodd MyFutureChoice i wireddu hyn.
Datgelu potensial unigol
Ein barn ni yw na ddylai unrhyw fyfyriwr golli’r cyfle i hyfforddi, astudio neu weithio mewn maes y mae’n rhagori ynddo. Mae hynny’n golygu mai ein gwaith ni yw gweithio gyda nhw i ddarganfod beth allai hwnnw fod.
Mae’r cymorth sydd gennym ar waith yn canolbwyntio ar helpu’r myfyrwyr i ddeall eu cryfderau eu hunain. Mae hyn yn dechrau wrth iddynt symud o flwyddyn 10 i flwyddyn 11, drwy ddefnyddio MyAptitude, prawf sy’n ein galluogi i ddeall potensial a galluoedd academaidd y tu hwnt i arholiadau ac asesiadau arferol, a MyCareerChoices, sy’n nodi dewisiadau gyrfa a Safon Uwch posibl yn seiliedig ar eu cryfderau.
Mae rhoi’r hunanddadansoddiad hwn wrth galon y broses o wneud penderfyniadau yn bwerus iawn, oherwydd mae’r myfyrwyr yn teimlo mai nhw sy’n llywio’r penderfyniadau, gan wybod bod yr hyn a awgrymir yn seiliedig ar yr hyn sy’n unigryw amdanynt.
Mae profi ar ddiwedd Blwyddyn 10 yn ffordd wych o gychwyn Blwyddyn 11, ac rydym yn mynd ati i ddefnyddio’r hyn rydym wedi’i ddysgu drwy gydol y flwyddyn.
Yn y Chweched Dosbarth, MyUniChoices yw’r adnodd rydym yn ei ddefnyddio i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch Addysg Uwch.
Unwaith eto, fel prawf sy’n archwilio diddordebau a galluoedd yn hytrach na dim ond y pynciau a astudiwyd, mae’n darparu ffordd drylwyr o baru myfyrwyr â’r cyrsiau a allai fod yn iawn iddynt ar ôl 18 oed, boed hynny’n gwrs sylfaen, yn radd neu’n Brentisiaeth Uwch/Gradd.
Rydym yn gweld bod hyn hefyd yn helpu i herio rhagdybiaethau ynghylch pa brifysgol neu gwrs a allai fod orau, gan hefyd gyfyngu’r opsiynau i nifer hylaw.
Ennill i’r myfyrwyr ac i’r ysgol
Mae ein cynghorydd gyrfaoedd arbenigol mewnol yn mynd â’r dadansoddiad gam ymhellach drwy apwyntiadau arweiniad unigol. Rydym wedi canfod, drwy ddefnyddio cynhyrchion MyFutureChoice, fod y broses arweiniad yn fwy effeithiol, gan fod y myfyriwr yn cyrraedd y cyfarfod cyntaf gyda dealltwriaeth a all lywio’r sgwrs i gyfeiriad priodol. O ganlyniad, mae’r broses arweiniad gyrfaoedd yn fwy effeithlon ac yn llawer mwy manwl nag y byddai fel arall.
Pan fyddwn yn holi myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol am y cyngor gyrfaoedd a gawsant, maen nhw’n dweud wrthym mai’r hyn maen nhw’n ei werthfawrogi fwyaf yw bod y dewisiadau a wnaethant yn seiliedig ar eu cryfderau, a sut mae hyn wedi’u helpu i dargedu lleoliadau gwaith neu i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol mewn digwyddiadau gyrfaoedd. Rydym hefyd yn gweld bod y wybodaeth maen nhw’n ei hennill yn gwneud ysgrifennu datganiad personol yn dasg llawer llai llafurus.
Efallai mai’r adborth pwysicaf a gawn yn gyffredinol – ac un sydd wedi sicrhau ein bod yn cadw MyFutureChoice wrth galon ein cyngor gyrfaoedd – yw i ba raddau rydym yn gallu rhoi hyder a hunangred i fyfyrwyr a rhieni yn eu gallu eu hunain, pa lwybr bynnag a ddewisant.