Nodweddion y Rhaglen
Darganfyddwch nodweddion rhaglenni MyFutureChoice

MyFutureJourney
Porth personol i fyfyrwyr rhwng 11 a 18+ oed sy’n eu harwain drwy bob cam o’u taith academaidd a gyrfaol. Yma gallant: gael mynediad at eu rhaglenni, cwblhau holiaduron, dadansoddi eu canlyniadau, olrhain eu hymchwil, lawrlwytho adnoddau, a dechrau ar eu ceisiadau. Ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd wedi’i gofrestru â chyfrif MyFutureChoice.

MyHQ
Porth gweinyddol i ddefnyddwyr staff sefydliad reoli eu cyfrif. Yma gallwch: archebu a neilltuo trwyddedau, golygu manylion myfyrwyr, gweld neu lawrlwytho canlyniadau myfyrwyr, olrhain cynnydd rhaglenni, lawrlwytho canllawiau cymorth, a chael mynediad at y Llyfrgell Adnoddau (gan gynnwys Disgrifiadau Cyrsiau Gradd). Mae gan bob defnyddiwr staff hefyd fynediad at dreial am ddim o’r gyfres lawn o raglenni.

Profion Seicometrig
Yn MyFutureChoice, mae chwe phrawf seicometrig ar wahân:
MyFirstChoices
MyCareerChoices
EirQuest
CymruQuest
MyAptitude
MyUniChoices (+MyAptitudeCore)
Mae ein profion wedi’u cynllunio i asesu diddordebau, hobïau a doniau myfyrwyr, pa gam bynnag y maent wedi’i gyrraedd yn eu taith academaidd. Mae’r profion yn awgrymu dewisiadau gyrfa a phwnc ar gyfer y dyfodol, ac yn ysbrydoli’r myfyrwyr i barhau i ddatblygu ac i ymchwilio i feysydd sydd o ddiddordeb iddynt.

Disgrifiadau Cyrsiau Gradd
Geirfa o bynciau cyrsiau gradd i roi gwybodaeth i fyfyrwyr am y cyrsiau sydd ar gael ac i’w helpu i ddeall y gwahaniaethau rhwng teitlau cyrsiau tebyg, e.e. biocemeg o’i chymharu â gwyddor fiofeddygol. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Gyllid, Cyllidebu, Tariffau UCAS, Astudio Dramor, a mwy.

Ysgrifennwr Datganiad Personol
Offeryn rhyngweithiol sy’n arwain myfyrwyr drwy’r broses o ysgrifennu eu datganiad personol, gan roi cymorth strwythuredig ac awgrymiadau allweddol i’w helpu i ymateb yn effeithiol i bob un o’r tri chwestiwn. Gellir rhannu drafftiau terfynol ag athrawon a/neu rieni drwy’r offeryn e-bost integredig i gael adborth ac adolygiad.

Y Cyfeiriadur Gyrfaoedd
Ein cyfeiriadur gyrfaoedd helaeth o 51 maes gyrfa, gyda diffiniadau a gwybodaeth am dros 550 o yrfaoedd wedi’u cyflwyno yn ôl yr acronym WORKBRIEF: What is involved (Beth sydd ynghlwm); Opportunities for training (Cyfleoedd hyfforddi); Requirements for entry (Gofynion mynediad); Kind of person (Y math o berson); Broad outlook (Rhagolygon cyffredinol); Related occupations (Swyddi cysylltiedig); Impact on lifestyle (Effaith ar ffordd o fyw); Earnings potential (Potensial enillion); Further information (Rhagor o wybodaeth). Wedi’i gynnwys fel rhan o raglen MyCareerChoices. Caiff pob maes gyrfa ei restru yn ôl ymatebion myfyriwr i’w holiadur diddordebau, ac fe’i cyflwynir ochr yn ochr â’i ganlyniadau MyAptitude perthnasol, gan ei gwneud yn haws dewis ei opsiynau ar gyfer y dyfodol.

Opsiynau’r Dyfodol
Offeryn sy’n cynghori myfyrwyr ar y dewisiadau pwnc a’r prentisiaethau gorau sydd ar gael iddynt yn seiliedig ar y gyrfaoedd y maent wedi’u rhoi ar restr fer yn WORKBRIEF. Gellir addasu matrics Opsiynau’r Dyfodol yn ôl pa gymwysterau a phynciau ôl-16 sydd ar gael yn eich sefydliad (gallwch ddewis o restr ddiofyn, neu ddewis yr opsiynau mwyaf cyffredin os nad oes addysg bellach ar gael yn eich sefydliad).

Gweithgareddau (Staff)
Gall staff sydd â chyfrif gweinyddol cofrestredig neilltuo gweithgareddau i fyfyrwyr, gan gynnwys gweithgareddau a gynhyrchir gan y system a rhai wedi’u creu’n bwrpasol, i’w cwblhau erbyn dyddiad cau penodol gyda thystiolaeth o gyfranogiad. Mae hyn yn eu galluogi i olrhain cynnydd myfyrwyr ac annog cynhyrchiant.

Gweithgareddau (Myfyrwyr)
Gall myfyrwyr sydd â phorth MyFutureJourney greu eu gweithgareddau eu hunain a chwblhau gweithgareddau a neilltuwyd gan staff er mwyn cofnodi profiadau perthnasol megis gweithgareddau allgyrsiol, profiad gwaith a gwirfoddoli. Mae hyn yn rhoi portffolio canolog iddynt a all gefnogi ceisiadau am addysg bellach ac addysg uwch, cyfleoedd gyrfa, ac ysgrifennu CV.